- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
19.—(1) Pan fo awdurdod lleol wedi gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm (neu wedi newid swm y taliad) tuag at gost sicrhau darpariaeth o wasanaeth, rhaid iddo ddarparu datganiad i D mewn ysgrifen, ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan D.
(2) Rhaid i unrhyw ddatganiad a ddarperir gan awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gynnwys y canlynol—
(a)disgrifiad o'r gwasanaeth y gwneir yn ofynnol bod D yn talu tuag at sicrhau darpariaeth ohono;
(b)manylion ynghylch y swm safonol y mae awdurdod lleol yn gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau'r gwasanaeth;
(c)os nad y swm safonol yw'r swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu, manylion ynghylch swm y taliad gofynnol;
(ch)esboniad o'r modd y cyfrifwyd y swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu (gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw asesiad modd a ymgymerwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn); a
(d)manylion ynghylch hawl D i herio neu gwyno ynghylch swm y taliad, neu eglurder y modd y mynegwyd y datganiad.
(3) Rhaid darparu datganiad i D yn unol â'r rheoliad hwn—
(a)yn ddi-dâl; a
(b)o fewn un diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y gwnaed y penderfyniad i wneud taliad yn ofynnol (neu i'w newid).
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bydd datganiad, wedi ei “ddarparu” (“provided”) ar y dyddiad y'i dyroddir gan awdurdod lleol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys