Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2906 (Cy.310)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

4 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

27 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.—(1Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.

(2Ar ôl y diffiniad o “refugee” yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol—

“the relevant period” means the period from 9 July 2012 to 12 September 2012;.

(3Yn rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer triniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) —

(a)ar ôl y gair “companion” ym mharagraff (f), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder “; or”; a

(b)ar ddiwedd y rheoliad, mewnosoder y paragraff a ganlyn —

(g)an individual who is in the United Kingdom as part of the “Games Family”, as defined in Schedule 3, during the relevant period..

(4Yn Atodlen 2 mewnosoder, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, y gair—

  • Jersey.

(5Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen ganlynol—

Regulation 5(g)

SCHEDULE 3Games Family

“Games Family” —means the group of individuals who are taking part or involved in the Olympic or Paralympic Games in London 2012 (“the Games”), and who have been given a letter code for the purpose of receiving free treatment the need for which arose during the visit to the United Kingdom.

This includes the following groups:

  • Athletes — comprising athletes and their supporting team officials participating in the Games as accredited members of a National Olympic Committee or National Paralympic Committee delegation;

  • Technical officials — comprising the team of individuals that officiates the field of play and athlete areas at the Games;

  • Press — comprising the Games accredited representatives of photographic and written press;

  • Broadcasters — comprising the Olympic Broadcast Service and all the Games- related rights holding broadcasting organisations;

  • Olympic and Paralympic family — comprising the International Olympic Committee and International Paralympic Committee organisations (and their constituents), Chairmen and Chief Executive Officers (or equivalent)..

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 5 o'r prif Reoliadau yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd ymwelydd o dramor yn esempt rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani pan oedd yr ymwelydd o dramor yn ymweld â'r Deyrnas Unedig. Mae rheoliadau 2(2) a (3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau i ddarparu esemptiad i unigolion sy'n rhan o Deulu'r Gemau yn ystod y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 rhwng 9 Gorffennaf 2012 a 12 Medi 2012.

Mae rheoliad 2(5) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 3 newydd yn y prif Reoliadau, sy'n diffinio'r hyn a olygir gan “Games Family”.

Mae rheoliad 2(4) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Jersey yn y rhestr, yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, o'r gwledydd neu'r tiriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb cilyddol â hwy.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill