Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3Adnabod

Tagiau clust a thatŵs

6.—(1Rhaid i dag clust—

(a)bod yn hawdd i'w ddarllen drwy gydol oes y mochyn;

(b)bod wedi ei wneud naill ai o fetel neu o blastig neu o gyfuniad o fetel a phlastig;

(c)gwrthsefyll ymyrryd ag ef;

(ch)bod yn amhosibl i'w ailddefnyddio;

(d)gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu'i stampio arno; ac

(dd)bod wedi ei ddylunio i barhau ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.

(2Rhaid gosod tatŵnaill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar y ddwy ysgwydd, ac yn y ddau achos rhaid iddo fod yn hawdd i'w ddarllen.

(3Fel dewis arall, yn hytrach na gosod tatŵgan ddefnyddio'r dulliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff ceidwad osod tatŵar y ddwy ysgwydd gan ddefnyddio cyfarpar sy'n defnyddio aer cywasgedig i yrru'r pinnau tatwio i mewn i groen y mochyn, ar yr amod bod y tatŵyn hawdd i'w ddarllen.

(4Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth bellach, neu ychwanegu gwybodaeth bellach ar y tag clust neu at y tatŵ, ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n eglur rhwng yr wybodaeth bellach a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.

Adnabod moch a symudir oddi ar ddaliad

7.—(1Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni fydd gan y mochyn—

(a)tag clust sy'n dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint y daliad y symudir y mochyn ohono; neu

(b)tatŵ, a osodwyd yn unol ag erthygl 6, sy'n dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau “UK” neu hebddynt).

(2Yn ddarostyngedig i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(1), yn achos marchnad—

(a)caniateir symud mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono;

(b)os nad yw'r mochyn wedi ei farcio'n gywir yn unol â'r Rheoliadau hyn pan yw'n cyrraedd y farchnad, caiff ei geidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny, ni chaniateir ond dychwelyd y mochyn i'r daliad y daeth ohono.

Eithriad ar gyfer mochyn nad yw eto'n flwydd oed

8.—(1Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd—

(a)naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan symudir ef, yn galluogi adnabod y daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf;

(b)yn parhau hyd nes bo'r mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.

(2Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir—

(a)i farchnad;

(b)i ladd-dy;

(c)at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu

(ch)i sioe.

Gofynion adnabod ychwanegol ar gyfer symud moch i sioeau, canolfannau semen moch etc.

9.—(1Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad—

(a)i sioe neu arddangosfa;

(b)at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y'i symudwyd ohono; neu

(c)at y diben o gasglu semen mewn canolfan semen moch,

oni fydd y mochyn wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 neu gyda marc cenfaint sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.

Gofynion ychwanegol ar gyfer allforio

10.  Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵsydd yn y ddau achos yn dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.

Adnabod moch a symudir i ddaliad o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod ar y mochyn dag clust neu datŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforir iddi;

(c)unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno gosod y gyfryw wybodaeth; ac

(ch)y llythyren “F”.

(2Rhaid gosod y tag clust neu'r tatŵar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag cyn symud y mochyn o'r daliad hwnnw.

(3Nid oes raid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod marc adnabod newydd yn unol â pharagraff (1) os symudir mochyn yn uniongyrchol i ladd-dy ac y'i cigyddir o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill