- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
22.—(1) Ceir penodi yn gyfarwyddwr unrhyw berson sy'n fodlon i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y caniateir iddo wneud hynny gan y gyfraith, naill ai—
(a)drwy benderfyniad cyffredin, neu
(b)drwy benderfyniad y cyfarwyddwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan, oherwydd marwolaeth, nad oes gan y cwmni unrhyw aelodau na chyfarwyddwyr, mae hawl gan gynrychiolwyr personol yr aelod olaf a fu farw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i benodi person i fod yn gyfarwyddwr.
(3) At ddibenion paragraff (2), os bu 2 neu ragor o aelodau farw mewn amgylchiadau sy'n creu ansicrwydd pa un a fu farw ddiwethaf, rhaid tybio bod yr aelod ieuengaf wedi goroesi aelod hŷn.
23. Mae person yn peidio â bod yn gyfarwyddwr cyn gynted ag—
(a)y bo'r person hwnnw'n peidio â bod yn gyfarwyddwr yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu y gwaherddir ef drwy gyfraith rhag bod yn gyfarwyddwr;
(b)y gwneir gorchymyn methdalu yn erbyn y person hwnnw;
(c)y gwneir compównd gyda chredydwyr y person hwnnw yn gyffredinol, er mwyn bodloni dyledion y person hwnnw;
(ch)y cyflwynir i'r cwmni farn ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n trin y person hwnnw, yn datgan bod y person hwnnw wedi mynd yn analluog, yn gorfforol neu'n feddyliol, i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y gallai'r person hwnnw barhau felly am fwy na thri mis;
(d)oherwydd iechyd meddyliol y person hwnnw, y gwneir gorchymyn gan lys sydd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yn rhwystro'r person hwnnw rhag arfer yn bersonol unrhyw bwerau neu hawliau a fyddai gan y person hwnnw fel arall;
(dd)y caiff y cwmni hysbysiad gan y cyfarwyddwr ei fod yn ymddiswyddo, a'r cyfryw ymddiswyddiad wedi cael effaith yn unol â thelerau'r hysbysiad.
24. Ac eithrio gyda chydsyniad y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, nid oes hawl gan y cyfarwyddwyr i gael unrhyw gydnabyddiaeth. Rhaid i unrhyw benderfyniad sy'n rhoi cydsyniad o'r fath bennu swm y gydnabyddiaeth sydd i'w thalu i'r cyfarwyddwyr, ac oni fydd y penderfyniad yn darparu'n wahanol, ystyrir bod y gydnabyddiaeth yn cronni o ddiwrnod i ddiwrnod.
25. Caiff y cwmni dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir yn briodol gan y cyfarwyddwyr mewn cysylltiad â'u presenoldeb mewn—
(a)cyfarfodydd cyfarwyddwyr neu bwyllgorau o'r cyfarwyddwyr,
(b)cyfarfodydd cyffredinol, neu
(c)cyfarfodydd ar wahân o ddeiliaid dyledebion y cwmni,
neu rywfodd arall mewn cysylltiad ag arfer eu pwerau a chyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r cwmni.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys