- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). This item of legislation is currently only available in its original format.
33.—(1) Rhaid i benderfyniad y pleidleisir arno mewn cyfarfod cyffredinol gael ei benderfynu drwy ddangos dwylo oni ofynnir yn briodol am gynnal pôl yn unol â'r erthyglau.
(2) Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Rhaid i'r bleidlais gael ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.
(3) Ar unrhyw adeg pan fo unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn—
(a)yn gyntaf, dyrennir i bob uned breswyl yn y Fangre yr un nifer o bleidleisiau sy'n hafal i gyfanswm nifer aelodau'r cwmni sy'n landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre. Bydd landlordiaid o dan les o'r fath yr ystyrir eu bod yn gyd-aelod o'r cwmni eu cyfrif fel un aelod at y diben hwn;
(b)os yw'r Fangre ar unrhyw adeg yn cynnwys unrhyw ran ddibreswyl, dyrennir cyfanswm nifer pleidleisiau i'r rhan honno sy'n hafal i gyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r unedau preswyl wedi'i luosi â'r ffactor A/B, lle mae A yn gyfanswm arwynebedd llawr mewnol y rhannau dibreswyl a B yn gyfanswm arwynebedd mewnol yr holl rannau preswyl. Rhaid penderfynu ar rannau dibreswyl ac arwynebedd llawr mewnol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002. Rhaid cyfrifo mesur arwynebedd y llawr mewnol mewn metrau sgwâr, gan anwybyddu ffracsiynau o arwynebedd llawr sy'n llai na hanner metr sgwâr a chyfrif ffracsiynau o arwynebedd llawr sydd dros hanner metr sgwâr fel metr sgwâr cyfan;
(c)yr aelod sy'n denant cymwys uned breswyl sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r uned honno, neu os nad oes tenant cymwys gan yr uned honno, yr aelod sy'n landlord uniongyrchol sydd â'r hawl honno. Ni fydd gan y landlord uniongyrchol yr hawl i bleidlais uned breswyl a ddelir gan denant cymwys nad yw'n aelod o'r cwmni RTM;
(ch)landlord uniongyrchol rhan ddibreswyl o'r Fangre sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan honno, neu os nad oes les o'r rhan ddibreswyl, y rhydd-ddeiliad sydd â'r hawl honno. Os oes mwy nag un person o'r fath, rhaid rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan ddibreswyl rhyngddynt, yn ôl cyfran arwynebedd llawr mewnol eu rhannau perthnasol. Rhaid diystyru unrhyw hawl ganlyniadol i ffracsiwn o bleidlais;
(d)os nad yw uned breswyl yn ddarostyngedig i unrhyw les, nid oes hawl i fwrw unrhyw bleidleisiau mewn perthynas â hi;
(dd)mae gan unrhyw berson, sy'n landlord o dan les neu lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre ac sy'n aelod o'r cwmni ond nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau, yr hawl i un bleidlais.
(4) Yn achos personau yr ystyrir eu bod yn gyd-aelodau o'r cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawliau pleidleisio sydd gan yr aelodau hynny ar y cyd, ond os oes mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ohonynt ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a phenderfynir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny yn ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl fel y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys