- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
33.—(1) Ceir penderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny mewn ysgrifen.
(2) Pan fo pob parti wedi cytuno fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad sy'n datgan—
(a)y rhesymau, neu'r rhesymau pellach am yr anghytundeb sydd wedi ysgogi'r apêl; neu
(b)nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach.
(3) Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno gan y Clerc i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad o effaith paragraffau (4) a (5).
(4) Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos ar ôl y cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach sy'n datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu'n datgan nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl fel y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.
(5) Ar ôl cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o'r canlynol i Banel Apêl—
(a)unrhyw wybodaeth a drosglwyddwyd i'r Clerc dan y Rheoliadau hyn, a
(b)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (4).
(6) Caiff y Panel Apêl y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os gwêl yn briodol—
(a)gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu gwybodaeth ysgrifenedig bellach am y seiliau y dibynna arnynt ac am unrhyw ffeithiau neu haeriadau perthnasol; neu
(b)gorchymyn bod yr apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad.
(7) Pan fo Panel Apêl yn gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu unrhyw fanylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r cyfryw fanylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno felly, gyflwyno i'r Clerc unrhyw ddatganiad pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys