Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 289 (Cy.38)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010

Gwnaed

9 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Chwefror 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 182(2), (3) a 203(9) a (10)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac Atodlen 10 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2);

  • ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys” (“Powys Teaching Local Health Board area”) yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd(3);

  • ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “cyn Gyngor” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y Cynghorau sy'n parhau” (“the continued Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;

  • ystyr “y Cynghorau newydd” (“new Councils”) yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y dyddiad diddymu” (“abolition date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(4).

Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned

3.  Sefydlir, yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, y chwe Chyngor Iechyd Cymuned a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n dwyn yr enwau a roddir iddynt yn yr Atodlen honno.

Ardaloedd Cynghorau Iechyd Cymuned

4.—(1Mae pob ardal Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfateb i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar ei chyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(2Os yw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned o dan baragraff (1) yn cael ei hamrywio, mae ardal y Cyngor Iechyd Cymuned i'w hamrywio'n unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu ardal Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bodoli neu i gyfuno dwy ardal Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy.

Swyddogaethau'r Cynghorau newydd

5.  Dyma swyddogaethau'r Cynghorau newydd—

(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf:

(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf; a

(iii)byddant yn cynnwys swyddogaethau'r cyn Gynghorau a drosglwyddir i'r Cynghorau newydd gan erthygl 6.

Trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynghorau newydd

6.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gynghorau neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny.

(2Mae gan y Cynghorau newydd y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.

(3Rhaid i Gyngor newydd gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.

Darparu Adroddiadau a Chyfrifon cyn Gynghorau

7.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gynghorau am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010.

(2Rhaid i Gyngor newydd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2010 neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i'r Cyngor newydd, yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o'r Rheoliadau.

Darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau

8.  Bydd unrhyw beth a wnaed gan y cyn Gynghorau neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor newydd yn cael effaith, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan y Cyngor newydd neu mewn perthynas ag ef.

Diddymiadau

9.  Mae'r ddau ar bymtheg o Gynghorau Iechyd Cymuned a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a barhaodd mewn bodolaeth neu a sefydlwyd o dan adran 182 o'r Ddeddf yn cael eu diddymu gydag effaith o'r dyddiad diddymu.

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn i barhau mewn bodolaeth

10.—(1Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn yn parhau mewn bodolaeth.

(2Ardal gyfunol y Cynghorau hyn sy'n parhau yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.

(3Os bydd ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn cael ei hamrywio mae ardal gyfunol y ddau gyngor hyn i gael ei hamrywio'n unol â hynny.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio'r ardal y sefydlir y naill Gyngor neu'r llall, neu'r ddau Gyngor, sy'n parhau drosti.

(5Nid yw paragraff (3) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys neu i gyfuno ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys ag ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu â fwy nag un ohonynt.

(6Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir o fewn yr erthygl hon, mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn cadarnhau'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau drostynt ac y maent yn parhau i arfer eu swyddogaethau drostynt.

Swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau

11.  Dyma swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau—

(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf: a

(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Chwefror 2010

Erthyglau 3 a 4

ATODLEN 1Enwau Cynghorau Iechyd Cymuned ac ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol y sefydlir hwy ar eu cyfer

Colofn 1Colofn 2
Enwau Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer
1Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin BevanBwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
2Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro MorgannwgBwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
3Cyngor Iechyd Cymuned Betsi CadwaladrBwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
4Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro MorgannwgBwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
5Cyngor Iechyd Cymuned Cwm TafBwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
6Cyngor Iechyd Cymuned Hywel DdaBwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Erthygl 9

ATODLEN 217 o Gynghorau Iechyd Cymuned a ddiddymir yn effeithiol o 1 Ebrill 2010

Cynghorau Iechyd Cymuned a oedd yn parhau mewn bodolaeth, neu a gafodd eu sefydlu, o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
1Cyngor Iechyd Cymuned Dwyrain Conwy
2Cyngor Iechyd Cymuned Gorllewin Conwy
3Cyngor Iechyd Cymuned Clwyd
4Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Gwynedd
5Cyngor Iechyd Cymuned Meirionnydd
6Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn
7Cyngor Iechyd Cymuned Gwent
8Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd
9Cyngor Iechyd Cymuned Bro Morgannwg
10Cyngor Iechyd Cymuned Merthyr a Chwm Cynon
11Cyngor Iechyd Cymuned Pontypridd a Rhondda
12Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe
13Cyngor Iechyd Cymuned Castell-nedd a Phort Talbot
14Cyngor Iechyd Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr
15Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
16Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro
17Cyngor Iechyd Cymuned Ceredigion

Erthygl 10

ATODLEN 3Ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys (yr ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer) y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau ar eu cyfer ac y maent yn arfer eu swyddogaethau drostynt

Enw'r Cyngor Iechyd CymunedArdaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar eu cyfer(5)
1Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a MaesyfedDosbarth Maesyfed a Brycheiniog
2Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a LlangedwynDosbarth Sir Drefaldwyn gan gynnwys cymunedau

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu, o 1 Ebrill 2010, chwe Chyngor Iechyd Cymuned newydd yng Nghymru, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 182(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau Iechyd Cymuned ar eu cyfer.

Mae erthygl 5 yn gosod y swyddogaethau sydd i'w cyflawni gan y Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3.

Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau a hawliau oedd yn arferadwy gan y Cynghorau sy'n cael eu diddymu gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn ac ar gyfer trosglwyddo'r rhwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyfryw Gynghorau i'r Cynghorau a sefydlir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 7 yn sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon y Cynghorau a ddiddymir gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o Reoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.

Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 9 yn diddymu dau ar bymtheg o'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2010.

Er mwyn eglurder, gan fod pob Cyngor Iechyd Cymuned arall yng Nghymru yn cael ei ddiddymu a Chynghorau Iechyd Cymuned newydd yn cael eu creu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, mae erthygl 10 yn darparu'n benodol ar gyfer parhâd bodolaeth Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn.

Mae'n cadarnhau fod Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gyda'i gilydd yn cwmpasu'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys drosti. Mae hyn yn dangos fod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i sicrhau fod yr ardaloedd y sefydlir Byrddau Iechyd Cymuned ar eu cyfer ar unrhyw adeg gyda'i gilydd yn cynnwys Cymru gyfan (adran 182(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006). Nid yw'r union ardaloedd y sefydlwyd Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar eu cyfer, a'r union ardaloedd y maent yn eu tro yn arfer eu swyddogaethau drostynt, wedi newid, ac fe'u gosodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 11 yn disgrifio swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau.

Mewn perthynas ag aelodaeth, cyfansoddiad, a gweithdrefnau'r Cynghorau Iechyd Cymuned, gweler Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/288, (Cy.37)).

(3)

O.S. 2003/148 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/778 (Cy.66).

(5)

Gweler Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) adran 1(2), Atodlen1, paragraff 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill