Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 21

ATODLEN 4ER MWYN DIOGELU ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD

1.—(1Bydd y darpariaethau a ganlyn yn gymwys er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd onid oes cytundeb ysgrifenedig gwahanol rhwng yr ymgymerwr ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

(2Yn yr Atodlen hon—

  • mae “adeiladu” (“construction”) yn cynnwys gwneud, gosod, altro, gosod peth newydd, ail osod a symud ymaith a rhaid dehongli “adeiledir” (“to construct”) ac “adeiladwyd” (“constructed”) yn unol â hynny;

  • ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw unrhyw ddyfroedd lle mae pysgod a physgod mewn dyfroedd o'r fath neu bysgod sy'n mudo i ddyfroedd o'r fath neu ohonynt, a silod, cynefinoedd neu fwyd y cyfryw bysgod;

  • mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys pob afon, nant, ffos, traen, toriad, cwlfert, arglawdd, llifddor, carthffos a llwybrau y mae dŵr yn llifo drwyddynt (boed y llif yn ysbeidiol ai peidio), ac eithrio carthffos gyhoeddus.

  • mae “difrod” (“damage”) yn cynnwys sgwrio, erydu a niwed amgylcheddol a rhaid dehongli “wedi'i ddifrodi” (“damaged”) ac “a ddifrodwyd” (“damaged”) yn unol â hynny;

  • ystyr “gwaith penodedig” (“specified work”) yw cymaint o unrhyw waith neu weithrediad a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn ag sydd mewn, ar, oddi tan neu dros gwrs dŵr neu sydd o fewn 16 o fetrau iddo neu sy'n debygol mewn modd arall–

    (a)

    o effeithio ar unrhyw waith traenio neu gyfradd gyfeintiol y dŵr sydd yn llifo mewn unrhyw waith traenio neu sy'n llifo i mewn iddo neu allan ohono;

    (b)

    o effeithio ar lif, purdeb neu ansawdd dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr neu ddyfroedd arwyneb eraill neu ddŵr daear;

    (c)

    o beri rhwystr i rydd symudiad pysgod neu ddifrod i unrhyw bysgodfa; neu

    (ch)

    o effeithio ar warchodaeth neu ddosbarthiad adnoddau dŵr neu'r defnydd ohonynt;

  • ystyr “gwaith traenio” (“drainage work”) yw unrhyw gwrs dŵr ac mae'n cynnwys unrhyw dir y disgwylir iddo roi lle dros ben ar gyfer dal dŵr sy'n gorlifo o unrhyw gwrs dŵr ac unrhyw lan, mur, arglawdd neu strwythur arall, neu unrhyw gyfarpar, a adeiladwyd neu a ddefnyddir ar gyfer traenio tir neu amddiffyn rhag llifogydd; ac

  • mae “planiau” (“plans”) yn cynnwys trawsluniau, lluniadau, manylebion a datganiadau dull.

2.—(1Cyn dechrau adeiladu unrhyw waith penodedig, rhaid i'r ymgymerwr gyflwyno planiau o'r gwaith penodedig i Asiantaeth yr Amgylchedd ynghyd ag unrhyw fanylion pellach sydd ganddo ag y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhesymol ofyn amdanynt o fewn 28 niwrnod o gyflwyno'r planiau.

(2Ni chaniateir adeiladu unrhyw waith penodedig o'r fath ac eithrio yn unol â'r fath blaniau ag y dichon fod wedi'u cymeradwyo yn ysgrifenedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd, neu fod wedi'u penderfynu o dan baragraff 13.

(3O ran unrhyw gymeradwyaeth sy'n ofynnol oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid peidio â'i ddal yn ôl yn afresymol;

(b)bernir y bydd wedi cael ei roi os nad yw nac wedi ei roi nac wedi ei wrthod yn ysgrifenedig o fewn 2 fis o gyflwyno'r planiau i'w cymeradwyo ac mewn achos o wrthod, fod gyda'r gwrthodiad hwnnw ddatganiad o'r rhesymau dros wrthod; a

(c)caniateir ei roi yn ddarostyngedig i'r fath ofynion rhesymol ag y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd eu gwneud er mwyn gwarchod unrhyw waith traenio neu bysgodfa, neu er mwyn gwarchod adnoddau dŵr, neu er mwyn atal llifogydd neu lygredd neu wrth gyflawni ei dyletswyddau amgylcheddol a'i dyletswyddau hamdden.

(4Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd ymdrechu'n rhesymol i ymateb i gyflwyno unrhyw blaniau cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b).

3.  Mae'r gofynion y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd eu gwneud o dan y paragraff hwnnw yn cynnwys yn benodol amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr adeiladu, a hynny ar ei gost ei hun, y fath weithfeydd amddiffynnol, boed hwy'n barhaol neu dros dro, yn ystod cyfnod adeiladu'r gweithfeydd penodedig (gan gynnwys darparu ponciau atal llifogydd, muriau neu argloddiau neu weithfeydd newydd eraill a chryfhau, trwsio neu adnewyddu ponciau, muriau neu argloddiau presennol) ag sydd yn rhesymol angenrheidiol—

(a)i warchod unrhyw waith traenio rhag difrod; neu

(b)i sicrhau nad amherir ar ei effeithiolrwydd at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac nad yw'r perygl o lifogydd yn cynyddu mewn modd arall oherwydd unrhyw waith penodedig.

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i unrhyw waith penodedig, a phob gwaith amddiffynnol a wnaed yn ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd dan baragraff 3, gael ei adeiladu—

(i)gyda phob prydlondeb rhesymol yn unol â'r planiau a gymeradwywyd, neu y bernir iddynt gael eu cymeradwyo neu eu cytuno o dan yr Atodlen hon; ac

(ii)er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd,

a bydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yr hawl drwy ei swyddog i wylio ac arolygu adeiladu gweithiau o'r fath.

(2Rhaid i'r ymgymerwr roi dim llai na 14 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i Asiantaeth yr Amgylchedd o'i fwriad i ddechrau adeiladu unrhyw waith penodedig a hysbysiad ysgrifenedig fod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau dim hwyrach na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pan ddechreuwyd ei ddefnyddio.

(3Os adeiledir unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig sy'n ffurfio strwythur mewn gwaith traenio, neu trosto neu oddi tano, mewn modd heb fod yn unol â gofynion yr Atodlen hon, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr, ar ei gost ei hun, gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon neu (os yw'r ymgymerwr yn dewis gwneud hynny, a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydsynio'n ysgrifenedig, heb atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol) symud y gwaith awdurdodedig ymaith, ei altro neu ei dynnu i lawr a, phan fo angen ei symud ymaith, adfer y safle i'w gyflwr blaenorol i'r graddau ac o fewn y terfynau sy'n ofynnol yn rhesymol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) a pharagraff 8, os, o fewn cyfnod rhesymol, a hwnnw heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan is-baragraff (3) i'r ymgymerwr, bydd yr ymgymerwr wedi methu â chychwyn cymryd camau i gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, ac yna symud ymlaen yn rhesymol ddi-ymdroi tuag at eu rhoi ar waith, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd wneud y gweithfeydd a bennir yn yr hysbysiad a chaniateir i'r Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(5Os cyfyd unrhyw anghydfod parthed a yw'n briodol cymhwyso is-baragraff (3) at unrhyw waith y cyflwynwyd hysbysiad ynglŷn ag ef o dan yr is-baragraff hwnnw, neu parthed pa mor rhesymol yw unrhyw ofyniad yn y cyfryw hysbysiad, rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd beidio, ac eithrio mewn argyfwng, ag arfer y pwerau a roddir gan is-baragraff (4) hyd nes bod dyfarniad terfynol wedi ei wneud ar yr anghydfod.

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon ac eithrio i'r graddau y mae Asiantaeth yr Amgylchedd neu berson arall yn atebol dros gynnal unrhyw waith o'r fath ac nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn, yna o'r adeg y cychwynnir adeiladu'r gweithfeydd penodedig rhaid i'r ymgymerwr gynnal a chadw unrhyw waith traenio mewn cyflwr a chywair da ac yn rhydd rhag rhwystrau pan fo'r gwaith hwnnw wedi'i leoli o fewn terfynau'r gwyriad neu ar dir yn naliadaeth yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd penodedig neu mewn cysylltiad â hwy, bydded y gwaith traenio hwnnw wedi'i adeiladu o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu boed eisoes mewn bodolaeth.

(2Os oes unrhyw waith traenio o'r fath y mae'r ymgymerwr yn atebol dros ei gynnal a'i gadw heb fod yn cael ei gynnal a'i gadw er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerwr drwsio ac adfer y gwaith, neu unrhyw ran o'r cyfryw waith, neu (os yw'r ymgymerwr yn dewis gwneud hynny a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydsynio'n ysgrifenedig, a rhaid peidio â dal y cydsyniad hwnnw yn ôl yn afresymol), i symud y gwaith ymaith ac adfer y safle i'r cyflwr yr oedd ynddo gynt, i'r fath raddau ac o fewn y fath derfynau ag sy'n rhesymol ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os yw'r ymgymerwr, o fewn cyfnod rhesymol heb fod yn llai na 28 niwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir i'r ymgymerwr hysbysiad ynglŷn ag unrhyw waith o dan is-baragraff (2), wedi methu â dechrau cymryd camau i gydymffurfio â gofynion rhesymol yr hysbysiad, ac yna heb symud ymlaen yn rhesymol ddi-ymdroi tuag at eu rhoi ar waith, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio o'r fath a chaniateir i'r Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(4Os cyfyd unrhyw anghydfod parthed pa mor rhesymol yw unrhyw ofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (2), rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd beidio, ac eithrio mewn argyfwng, ag arfer y pwerau a roddir gan is-baragraff (3) uchod hyd nes bod dyfarniad terfynol wedi ei wneud ar yr anghydfod.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os amherir ar effeithlonrwydd unrhyw waith traenio at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd oherwydd adeiladu unrhyw waith penodedig neu oherwydd methiant unrhyw waith penodedig, neu os gwneir difrod mewn modd arall i'r gwaith traenio hwnnw, rhaid i'r ymgymerwr drwsio'r amhariad neu'r difrod hwnnw er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd ac os yw'r ymgymerwr yn methu â gwneud hynny, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd drwsio'r cyfryw ac adennill y gwariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

7.—(1Rhaid i'r ymgymerwr gymryd pob cam ag a ddichon fod yn rhesymol ymarferol i osgoi unrhyw ymyrraeth â rhydd symudiad pysgod mewn unrhyw bysgodfa yng nghyfnod adeiladu unrhyw waith penodedig.

(2Os perir difrod i'r bysgodfa oherwydd—

(i)adeiladu unrhyw waith penodedig; neu

(ii)methiant unrhyw waith o'r fath,

neu os oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd reswm dros ddisgwyl bod difrod o'r fath yn ddichonadwy, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gyflwyno hysbysiad i'r ymgymerwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd y fath gamau ag a ddichon fod yn rhesymol ymarferol i drwsio'r difrod, neu, yn ôl y digwydd, i amddiffyn y bysgodfa rhag difrod o'r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os bydd yr ymgymerwr, o fewn hynny o amser a ddichon fod yn rhesymol ymarferol at y diben hwnnw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd o unrhyw ddifrod neu ddifrod disgwyliedig i'r bysgodfa, yn methu â chymryd y camau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd y camau hynny, a chaiff yr Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 8, mewn unrhyw achos pan fo angen rhesymol i Asiantaeth yr Amgylchedd weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau osgoi neu gwtogi'r perygl o ddifrod i'r bysgodfa, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol at y diben hwnnw, a chaniateir i'r Asiantaeth adennill cost resymol gwneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr cyhyd â bod hysbysiad yn pennu'r camau hynny yn cael ei gyflwyno i'r ymgymerwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd, neu ddechrau cymryd, y camau a bennir yn yr hysbysiad.

8.  Nid oes dim ym mharagraffau 4(4), 5(3), 6, 7(3) a (4) yn awdurdodi Asiantaeth yr Amgylchedd i wneud gwaith ar unrhyw reilffordd weithredol, na gwaith sy'n effeithio arni heb gydsyniad yr ymgymerwr, ac nid atelir y cyfryw gydsyniad yn afresymol.

9.  Rhaid i'r ymgymerwr ryddarbed Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â phob cost, arwystl a thraul a ddisgyn yn rhesymol arni neu y bydd yn rhaid iddi ei dalu neu y dichon ei dwyn—

(a)wrth archwilio neu gymeradwyo planiau o dan yr Atodlen hon; a

(b)wrth arolygu adeiladu'r gweithfeydd penodedig neu unrhyw weithfeydd amddiffynnol sy'n ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon.

10.—(1Heb effeithio ar ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon, rhaid i'r ymgymerwr ryddarbed Asiantaeth yr Amgylchedd rhag pob hawliad, gorchymyn, achos cyfreithiol, cost, iawndal, traul neu golled a ddichon gael ei wneud neu ei dwyn yn erbyn yr Asiantaeth, neu y gellir ei hadennill oddi wrthi neu a ddisgyn arni oherwydd—

(a)unrhyw ddifrod i unrhyw waith traenio sy'n amharu ar ei effeithiolrwydd at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd;

(b)unrhyw ddifrod i'r bysgodfa;

(c)unrhyw godi neu ostwng yn y lefel trwythiad ar dir cyffiniol â'r gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn neu unrhyw garthffosydd, traeniau neu gyrsiau dŵr;

(ch)unrhyw lifogydd neu lifogydd ehangach ar unrhyw diroedd o'r fath; neu

(d)ansawdd dŵr annigonol mewn unrhyw gwrs dŵr neu ddyfroedd wyneb eraill neu mewn unrhyw ddŵr daear,

a achosir gan, neu sy'n codi o, adeiladu un neu ragor o'r gweithfeydd neu o unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr, ei gontractwyr, ei asiantyddion neu ei gyflogeion tra'u bod wrthi ynglŷn â'r gwaith.

(2Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd roi hysbysiad rhesymol i'r ymgymerwr o unrhyw hawliad neu orchymyn o'r fath ac ni chaniateir gwneud setliad na chyfaddawd arno heb gytundeb yr ymgymerwr, ac nid atelir y cyfryw gytundeb yn afresymol.

11.  Ni fydd y ffaith bod unrhyw waith neu unrhyw beth wedi ei weithredu neu ei wneud yn unol â phlan a gymeradwywyd, neu y bernir ei fod wedi ei gymeradwyo gan Asiantaeth yr Amgylchedd, neu er boddhad yr Asiantaeth, neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau neu ddyfarniad gan gymrodeddwr, yn rhyddhau'r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon.

12.  At ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1) (tynnu dŵr ymaith a'i gronni) ac adran 109 o'r Ddeddf honno (parthed strwythurau mewn cyrsiau dŵr neu throstynt neu oddi tanynt) fel mae'n gymwys i adeiladu unrhyw waith penodedig, bernir y bydd unrhyw ganiatâd neu gymeradwyaeth a roddir neu y bernir ei fod wedi ei roi gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon mewn perthynas â'r cyfryw waith adeiladu hefyd yn drwydded o dan y Bennod honno i rwystro neu i atal llif dyfroedd mewndirol wrth y pwynt hwnnw drwy weithfeydd cronni neu, yn ôl y digwydd, yn ganiatâd neu'n gymeradwyaeth o dan adran 109, ac ni fydd raid i'r ymgymerwr gyflwyno unrhyw hysbysiad a fyddai fel arall yn ofynnol gan adran 30 o ddywededig Ddeddf 1991 (sy'n ymwneud ag adeiladu dyfrdyllau a chyffelyb weithfeydd nad oes angen trwydded ar eu cyfer).

13.  Dyfernir ar unrhyw anghydfod a gyfyd rhwng yr ymgymerwr ac Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon (ac eithrio gwahaniaeth parthed ei ystyr neu ei ddehongliad) drwy gymrodedd o dan erthygl 26 (cymrodeddu) os yw'r partïon yn cytuno ar hynny, ond fel arall dyfernir arno gan Weinidogion Cymru o gael ei gyfeirio atynt gan yr ymgymerwr neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd, wedi i'r naill roi hysbysiad ysgrifenedig i'r llall.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill