- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)) (“Rheoliadau 2003”) a Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/953 (Cy.84)) (“Rheoliadau 2007”). Maent yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol.
2. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau—
(a)ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth y Byrddau (rheoliad 3);
(b)ar gyfer penodi eu haelodau (rheoliad 4);
(c)o ran gofynion cymhwystra eu haelodau (rheoliad 5 ac Atodlen 2);
(ch)mewn perthynas â deiliadaeth swydd eu haelodau, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 12).
3. Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau amrywiol mewn perthynas â thrafodion y Bwrdd gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd, gweithdrefnau ar gyfer cyfarfodydd a darpariaethau ynghylch pryd y gwaherddir aelod rhag pleidleisio.
4. Mae Rhan 4 yn nodi trefniadau trosiannol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ac yn darparu i aelodau newydd gael eu penodi ac i aelodau presennol beidio â bod yn aelodau.
5. Mae Rhan 5 yn cynnwys trefniadau trosiannol i Fyrddau Iechyd Lleol newydd gymryd lle'r Byrddau Iechyd Lleol presennol a darpariaethau i ddirymu Rheoliadau 2003 a Rheoliadau 2007.
6. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys