- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Ar gyfer anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 ac y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen yn lle'r modd adnabod.
(2) Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yr un fath â'r hyn a nodir yn is-baragraff (a) i (c) o erthygl 11(5).
(3) Rhaid i unrhyw anifail a gafodd ei adnabod â'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) (“y tag adnabod cyntaf ”) gael ei adnabod ag ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)—
(a)os na chaiff ei gigydda cyn 12 mis oed; neu
(b)os caiff ei draddodi i'w allforio.
(4) Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai—
(a)yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, ac iddo'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu
(b)yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn—
(i)y llythrennau “UK”;
(ii)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y gosodir y modd adnabod ychwanegol; a
(iii)Rhif unigryw.
(5) Pan osodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a'r llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yn y gofrestr onid yw'r anifail ar eu daliad genedigol.
(6) Yn achos anifeiliaid a draddodir i'w hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad gwreiddiol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys