- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—
(a)cyn eu bod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a
(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ar unrhyw ffurf y caiff Weinidogion Cymru ofyn amdani a rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai eu bod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 67.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—
(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a
(b)os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys