- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005(1).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
4. Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(2) mewnosoder y testun canlynol:
5A.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod y pennaeth yn yr ysgol—
(a)yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir ar y pennaeth; a
(b)yn elwa ar unrhyw hawlogaeth a roddir i'r pennaeth
drwy unrhyw orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (cyflog ac amodau athrawon)(3).
(2) Wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2009
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys