- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Caiff cynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro ar gyfer gwaith penodedig neilltuol mewn strydoedd penodedig fel rhan o'r cais am ddosbarthiadau penodol o drwydded.
(2) Pan fo cynllun trwyddedau yn cynnwys darpariaeth o'r fath, rhaid iddo bennu'r wybodaeth y mae'n rhaid iddi fynd gyda chais am flaenawdurdodiad dros dro, a chaiff bennu ym mha ddull y mae ceisiadau o'r fath i'w cyflwyno ac o fewn pa amser y mae'n rhaid eu cyflwyno.
(3) Rhaid i bob cais am flaenawdurdodiad dros dro gael ei gyfyngu i un stryd.
(4) Pan fo cynllun trwyddedau'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r cais am waith penodedig mewn strydoedd penodedig, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried, wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded, a yw'r ceisydd wedi cael awdurdodiad o'r fath.
(5) Ni fydd rhoi blaenawdurdodiad dros dro yn atal yr Awdurdod Trwyddedau rhag penderfynu peidio â rhoi'r drwydded y mae'r awdurdodiad hwnnw'n ymwneud â hi.
(6) Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod copi o bob cais am flaenawdurdodiad dros dro yn cael ei ddarparu gan y ceisydd pan ofynnir amdano gan awdurdod perthnasol a'i ddarparu i unrhyw berson arall y mae offer ganddo yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys