Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2008

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 2

YR ATODLEN

Diwygiadau i Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

1.  Yn lle rheoliad 2(1) rhodder—

2.(1) Yn y rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “ardal Ynysoedd yr Alban” (“Scottish Islands area”) yw naill ai—

(a)

ynysoedd Erch ac eithrio ynys Stronsay; neu

(b)

ynysoedd Jura, Gigha, Arran, Bute, Great Cumbrae a Little Cumbrae, penrhyn Kintyre i'r de o Tarbert a'r darnau o dir o fewn Rhanbarth Argyll a Bute yn cynnwys y rhannau hynny o blwyfi Dunoon a Kilmun ac Inverchaolain a ddangosir gan linell goch ar fap wedi'i farcio “Y map y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) y diffiniad o ardal Ynysoedd yr Alban yn rheoliad 2(1) Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005”, dyddiedig 31 Ionawr 2005, a lofnodwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol ac a adneuwyd yn swyddfeydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR;

ystyr “ardoll” (“levy”) yw'r ardoll gwargedol sy'n daladwy i Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth y Gymuned a'r Rheoliadau hyn;

mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” yn rheoliad 2(1) y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

mae i “awdurdod cymwys perthnasol” yr un ystyr ag sydd i “relevant competent authority” yn rheoliad 3 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “blwyddyn gwota” (“quota year”) yw unrhyw un neu unrhyw rai o'r cyfnodau o 12 mis y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(1) o Reoliad y Cyngor;

mae “buddiant” (“interest”) yn cynnwys trwydded i feddiannu tir a buddiant morgeisedig ac ymddiriedolwr, ond nid yw'n cynnwys buddiant buddiolwr o dan ymddiriedolaeth neu setliad;

mae “buwch” (“cow”) yn cynnwys heffer sydd wedi bwrw llo;

ystyr “cwota” (“quota”) yw cwota gwerthiannau uniongyrchol neu gwota cyfanwerthol, yn ôl y digwydd;

ystyr “cwota addasedig” (“converted quota”) yw cwota a addaswyd gan Weinidogion Cymru yn dilyn cais a wnaed o dan reoliad 21;

ystyr “cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon at brynwr gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr hwnnw fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota cyfanwerthol cofrestredig” (“registered wholesale quota”) yw cwota cyfanwerthol a gofrestrwyd yn unol â rheoliad 4(3) a (4);

ystyr “cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota”) yw cyfanswm y cynnyrch llaeth y gellir ei werthu neu ei drosglwyddo am ddim drwy werthiannau uniongyrchol gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota nas defnyddiwyd” (“unused quota”) yw cwota sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ôl ystyried unrhyw werthiannau uniongyrchol neu ddanfoniadau, yn dilyn y cyfryw addasu (os o gwbl) ag sy'n ofynnol yn Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chynnwys braster llaeth), a dehonglir “cwota a ddefnyddiwyd” (“used quota”) yn unol â hynny;

ystyr “cwota prynwr” (“purchaser quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon i brynwr yn ystod blwyddyn gwota heb arwain at unrhyw atebolrwydd i dalu ardoll;

mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);

ystyr “cynhyrchwr cyfanwerthol” (“wholesale producer”) yw cynhyrchwr sy'n danfon llaeth at brynwr;

mae i “cynhyrchwr” yr un ystyr ag sydd i “producer” yn Erthygl 65(c) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “cynnyrch llaeth” (“dairy produce”) yw cynnyrch, a fynegir mewn cilogramau neu litrau (mae un cilogram yn cyfateb i 0.971 litr), y mae ardoll yn daladwy mewn perthynas ag ef;

mae i “daliad” yr ystyr sydd i “holding” yn Erthygl 65(d) o Reoliad y Cyngor;

mae i “danfoniad” yr un ystyr ag sydd i “delivery” yn Erthygl 65(f) Rheoliad y Cyngor, a dehonglir “danfon” (“deliver”) yn unol â hynny;

ystyr “deddfwriaeth y Gymuned” (“the Community legislation”) yw Rheoliad y Comisiwn ac—

(a)

Erthygl 55(1)(a),

(b)

Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a chynhyrchion llaeth eraill, ac

(c)

y darpariaethau yn, neu y cyfeirir atynt yn, Adran III o Bennod III o Ran II,

o Reoliad y Cyngor;

mae “deiliad” (“occupier”), mewn perthynas â thir, yn cynnwys y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir hwnnw i berson arall, a, thra pery'r buddiant a grybwyllir yn rheoliad 16(1), y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir pan ddaw'r buddiant hwnnw i ben, ac mae “deiliadaeth” (“occupation”) i'w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “deiliad cwota” (“quota holder”), mewn perthynas â chwota, yw'r person y mae'r cwota wedi'i gofrestru yn ei enw;

ystyr “deiliad cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota holder”) yw person y mae cwota cyfanwerthol wedi'i gofrestru yn ei enw yn unol â rheoliad 4;

ystyr “deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota holder”) yw person y mae cwota gwerthiannau uniongyrchol wedi'i gofrestru yn ei enw yn unol â rheoliad 4;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(2);

ystyr “dosraniad rhagolygol” (“prospective apportionment”), o ran cwota mewn perthynas â daliad, yw dosraniad cwota rhwng y personau y mae ganddynt fuddiant yn y daliad at ddibenion canfod y cwota y gellir ei briodoli i ran o'r daliad hwnnw os caiff y rhan honno ei throsglwyddo;

mae i “y gronfa genedlaethol” yr un ystyr ag sydd i “national reserve” yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”) yw Gweinidogion Cymru fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3);

mae i “gwerthiant uniongyrchol” yr un ystyr ag sydd i “direct sale” yn Erthygl 65(g) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “gwerthwr uniongyrchol” (“direct seller”) yw cynhyrchwr sy'n cynhyrchu llaeth ac sy'n trin neu sy'n prosesu'r llaeth hwnnw i gynhyrchu cynnyrch llaeth ar ei ddaliad ac sy'n gwerthu neu'n trosglwyddo'r llaeth hwnnw neu'r cynhyrchion llaeth hynny am ddim ar ôl hynny heb iddynt gael eu trin neu eu prosesu ymhellach gan fenter wahanol sy'n trin neu sy'n prosesu llaeth neu gynhyrchion llaeth;

ystyr “hysbysiad cydsyniad neu hysbysiad unig fuddiant” (“consent or sole interest notice”) yw hysbysiad, mewn perthynas â daliad, sy'n datgan—

(a)

mai'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad yw unig ddeiliad y daliad hwnnw ac nad oes gan unrhyw berson arall fuddiant yn y daliad hwnnw neu ran o'r daliad hwnnw; neu

(b)

bod pob person sydd â buddiant yn y daliad hwnnw neu unrhyw ran ohono, y gallai gwerth y buddiant hwnnw gael ei leihau drwy'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef, yn cytuno â'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol;

mae i “llaeth” yr un ystyr ag sydd i “milk” yn Erthygl 65(a) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “menter laeth” (“dairy enterprise”) yw ardal y mae deiliad yr ardal honno wedi datgan ei bod yn cael ei rhedeg fel busnes cynnyrch llaeth hunangynhwysol;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw cynhyrchwr, prynwr, unrhyw un o gyflogeion neu asiantiaid cynhyrchwr neu brynwyr, unrhyw gludwr llaeth, unrhyw berson yn gwneud gwaith profi braster menyn ar gyfer prynwyr mewn labordy, prosesydd llaeth neu gynhyrchion llaeth, neu unrhyw berson arall sydd ynghlwm wrth brynu, gwerthu neu gyflenwi llaeth neu gynhyrchion llaeth a gafwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwr neu brynwr, ond nid yw'n cynnwys defnyddiwr llaeth neu gynhyrchion llaeth;

ystyr “prynwr” (“purchaser”) yw prynwr o fewn yr ystyr sydd i “purchaser” yn Erthygl 65(e) Rheoliad y Cyngor, ac, ac eithrio yn rheoliad 5(1) i (4) a rheoliad 31(7), a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 5 ac Erthygl 23 o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol gosodedig (Rheoliad Sengl CMO);

ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002(4);

ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw—

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person sy'n cymryd lle rhywun arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir cwota iddo; ac

ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw—

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person y cymerir ei le gan feddiannydd arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir cwota oddi wrtho.

(1A) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—

(a)Erthygl 55(1)(a),

(b)Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a cynhyrchion llaeth eraill, ac

(c)y darpariaethau, neu ddarpariaethau y cyfeirir atynt yn Adran III o Bennod III o Ran II,

o Reoliad y Cyngor, ac at Reoliad y Comisiwn, yn gyfeiriadau at yr Erthyglau a'r darpariaethau hynny ac at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd..

2.  Yn rheoliad 4(9), yn lle “Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 72 Rheoliad y Cyngor”.

3.  Yn rheoliad 9(1), yn lle “Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 74 Rheoliad y Cyngor”.

4.  Yn rheoliad 13(2), yn lle “Erthygl 18 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 75 Rheoliad y Cyngor”.

5.  Yn rheoliad 15(1), yn lle “Erthygl 16 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 73 Rheoliad y Cyngor”.

6.  Yn rheoliad 19(2), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”.

7.  Yn rheoliad 21—

(a)ym mharagraff (1)(a) a (2)(b), yn lle “Erthygl 6(2) a (5) Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 67(2) a (5) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle “Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 81(2) Rheoliad y Cyngor”.

8.  Yn rheoliad 22(1), yn lle “Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 74 Rheoliad y Cyngor”.

9.  Yn rheoliad 23(2), yn lle “Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(2) Rheoliad y Cyngor”.

10.  Yn rheoliad 25(7), yn lle “Erthygl 10(2) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(2) Rheoliad y Cyngor”.

11.  Yn rheoliad 27(1), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”.

12.  Yn rheoliad 28—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 80(3) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 78(1) Rheoliad y Cyngor”;

13.  Yn rheoliad 30—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 12 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 83 Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (11)(b), yn lle “Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 78(1) Rheoliad y Cyngor”.

14.  Yn rheoliad 31—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “Erthygl 11(1) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(1) Rheoliad y Cyngor”, a

(ii)yn lle “Erthygl 12(4) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 83(4) Rheoliad y Cyngor”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 11(3) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 81(3) Rheoliad y Cyngor”.

15.  Yn rheoliad 33(2), yn lle “y cyfanswm cyfeirio cenedlaethol” hyd y diwedd rhodder “cyfanswm y cwota cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig y cyfeirir ato yn Erthygl 66(3) ac Atodiad IX Rheoliad y Cyngor.”.

16.  Yn rheoliad 38, ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Erthygl 72 Rheoliad y Cyngor”.

17.  Yn rheoliad 39, ym mharagraffau (1) a (3), yn lle “Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 72(1) Rheoliad y Cyngor”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill