- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “darpariaeth Gymunedol” (“Community provision”) yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sy'n bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenau eraill sy'n fiolegol actif yn hafal i un microgram o gyfwerth retinol;
ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrth-lechau;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
ystyr “manwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson nad yw'n prynu er mwyn adwerthu;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir i farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth(1);
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol (CFA) ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CFA Sengl)(2).
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn.
OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24.
OJ Rhif L299, 16.11.2007, t.1. Mae diwygiadau i'r Rheoliad hwn ond nid yw unrhyw un ohonynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys