Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad16(2) Rheoliad 17(2)(d) Rheoliad 19(6) Rheoliad 20(4)

ATODLEN 8Amcanion ansawdd data

RHAN 1Llygryddion Grŵp A a PM2·5

Llygryddion Grŵp A (heblaw bensen a charbon monocsid) a PM2·5

1.  Mae amcanion ansawdd data wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod ar gyfer cywirdeb gofynnol y dulliau asesu, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd—

Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogenPlwm, PM2·5 a PM10
Mesuriadau parhaus
Cywirdeb15%25%
Lleiafswm y data a gipir90%90%
Mesuriadau dangosol
Cywirdeb25%50%
Lleiafswm y data a gipir90%90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)
Modelu
Cywirdeb
Cyfartaleddau bob awr50%—60%
Cyfartaleddau bob diwrnod50%
Cyfartaleddau blynyddol30%50%
Amcangyfrif gwrthrychol
Cywirdeb75%100%

2.  Mae cywirdeb y mesuriad wedi ei ddiffinio fel y nodwyd yn yr “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” (ISO 1993)(1) neu mewn ISO 5725-1 “Manwl gywirdeb (gwiredd a thrachywiredd) dulliau a chanlyniadau mesuriad” (ISO 1994). Mae'r canrannau yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod cyfrifo, gan y gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith yr amrywiad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau parhaus gael eu dehongli fel eu bod yn gymwys o gwmpas y gwerth terfyn priodol.

3.  Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad digwyddiadau.

4.  Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn

5.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael eu gwneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer plwm, PM2·5 a PM10 trwy ddulliau y mae cywirdeb yn y cyfwng hyder o 95% mewn perthynas â monitro parhaus wedi ei ddangos i fod o fewn 10%. Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.

Bensen a charbon monocsid

6.  Mae'r amcanion ansawdd data yn y tabl canlynol, ar gyfer ansicrwydd dulliau asesu a ganiateir, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd —

BensenCarbon monocsid
Mesuriadau sefydlog
Ansicrwydd25%15%
Lleiafswm y data a gipir90%90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir35% mewn safleoedd cefndir trefol a thrafnidiaeth (wedi eu dosbarthu dros y flwyddyn i fod yn gynrychioliadol o wahanol amodau ar gyfer hinsawdd a thrafnidiaeth); 90% mewn safleoedd diwydiannol
Mesuriadau dangosol
Ansicrwydd30%25%
Lleiafswm y data a gipir90%90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir14% (mesuriad un diwrnod yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)14% (un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)
Modelu
Ansicrwydd:
Cyfartaleddau wyth awr50%
Cyfartaleddau blynyddol50%
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd100%75%

7.  Rhaid llunio ansicrwydd (ar gyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725:1994. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y gwerth terfyn priodol.

8.  Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad y digwyddiadau.

9.  Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u chadw fel rhan o'r drefn.

10.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael ei wneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd o ganlyniad i samplu ar hap, yn cwrdd â'r amcan ansawdd 25%. Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.

RHAN 2Llygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr

11.  Mae'r amcanion ansawdd data sydd wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod wedi cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd—

Benso(a)pyrenArsenig, cadmiwm a nicelHydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyrDyddodiad llwyr
(1)

Mae mesuriadau dangosol yn fesuriadau sy'n cael eu perfformio'n llai rheolaidd ond sy'n cyflawni'r amcanion ansawdd data eraill.

Ansicrwydd
Mesuriadau sefydlog a dangosol50%40%50%70%
Modelu60%60%60%60%
Lleiafswm y data a gipir90%90%90%90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir
Mesuriadau sefydlog33%50%
Mesuriadau dangosol(1)14%14%14%33%

12.  Rhaid llunio ansicrwydd (a fynegir ar gyfwng hyder o 95 %) y dulliau a ddefnyddir i asesu crynodiadau aer amgylchynol yn unol â'r “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” CEN (ENV 13005-1999)(2), y fethodoleg yn ISO 5725:1994, a'r arweiniad a roddir yn yr Adroddiad CEN, “Ansawdd aer — Agweddiad at amcangyfrif ansicrwydd ar gyfer dulliau mesuriad cyfeiriadol aer amgylchynol” (CR 14377:2002E). Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo amseroedd samplu nodweddiadol, ar gyfwng hyder o 95 %. Dylai' ansicrwydd y mesuriadau gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y gwerth targed priodol. Rhaid i'r mesuriadau sefydlog a dangosol gael eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn er mwyn osgoi gogwyddo canlyniadau.

13.  Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibreiddio yn rheolaidd neu wrth iddynt gael eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn. Rhaid cael samplu pedair awr ar hugain ar gyfer mesur benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill. Gyda gofal, gall samplau unigol a gymerwyd dros gyfnod o hyd at un mis gael eu cyfuno a'u dadansoddi fel sampl cyfansawdd, ar yr amod bod y dull yn sicrhau bod y samplau yn sefydlog ar gyfer y cyfnod hwnnw. Y tri cytras benso(b)fluoranthen, benso(j)fluoranthen, benzo(k)fluoranthen lle maent yn anodd eu cydrannu yn ddadansoddol. Mewn achosion o'r fath gellir eu cofnodi fel swm. Argymhellir bod samplu pedair awr ar hugain yn fuddiol hefyd ar gyfer mesur arsenig, cadmiwm a chrynodiadau nicel. Mae'n rhaid i'r samplu gael eu dosbarthu yn gyfartal dros ddiwrnodau'r wythnos a dros y flwyddyn. Ar gyfer mesur cyfraddau dyddodion, argymhellir cymryd samplau misol, neu wythnosol trwy gydol y flwyddyn.

14.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu ar gyfer defnyddio samplu gwlyb yn unig yn lle samplu swmp os y gellir dangos i'w fodlonrwydd bod y gwahaniaeth rhyngddynt o fewn 10 %. Yn gyffredinol dylid nodi cyfraddau dyddodion mewn μg/m2 y diwrnod.

15.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio lleiafswm maint amser islaw'r hyn a ddangosir yn y tabl, ond nid yn is na 14 % ar gyfer mesuriadau sefydlog a 6 % ar gyfer mesuriadau dangosol ar yr amod ei fod yn fodlon y gellir dangos y bydd y 95 % ansicrwydd ehangedig ar gyfer y cymedr blynyddol, a gyfrifwyd o'r amcanion ansawdd data yn y tabl yn unol ag ISO 11222:2002 — “Penderfynu ar ansicrwydd cyfartaledd amser mesuriadau ansawdd aer” yn cael eu bodloni.

RHAN 3Osôn a nitrogen deuocsid a asesir mewn pwyntiau samplu osôn

16.  Mae'r amcanion ansawdd data sydd wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod, ar gyfer ansicrwydd a ganiateir o ddulliau asesu, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur, yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrhau ansawdd—

Ar gyfer osôn, NO a NO2 a asesir mewn pwyntiau samplu osôn
Mesur sefydlog parhaus
Ansicrwydd mesuriadau unigol15%
Lleiafswm y data a gipir90% yn ystod yr haf; 75% yn ystod y gaeaf
Mesur dangosol
Ansicrwydd mesuriadau unigol30%
Lleiafswm y data a gipir90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir>10% yn ystod yr haf
Modelu
Ansicrwydd
Cyfartaleddau 1 awr (yn ystod y dydd)50%
Mwyafswm 8 awr y dydd50%
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd75%

17.  Mae'n rhaid i'r ansicrwydd (ar gyfwng hyder 95%) am y dulliau mesur gael eu gwerthuso yn unol â'r egwyddorion sydd wedi eu nodi yn y “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725-1 “Manwl gywirdeb (gwiredd a thrachywiredd) dulliau a chanlyniadau mesuriad” (ISO 1994) neu'n gywerth. Rhoddir y canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl ar gyfer mesuriadau unigol, ar gyfartaledd dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, ar gyfer cyfwng hyder 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus gael ei ddehongli fel ei fod yn gymwys o gwmpas y crynodiad a ddefnyddir ar gyfer y trothwy priodol.

18.  Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu yr amrywiad mwyaf o'r lefelau crynodiad a fesurwyd ac a gyfrifwyd, yn ystod y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r trothwy priodol, heb ystyried amseriad y digwyddiadau.

19.  Ystyr “yr amser a gwmpesir” (“time coverage”) yw'r canran o amser a ystyriwyd ar gyfer setlo'r gwerth trothwy pan gaiff y llygrydd ei fesur.

20.  Ystyr “y data a gipir” (“data capture”) yw cymhareb yr amser y mae'r offeryn yn cynhyrchu data dilys, i'r amser y mae'r paramedr ystadegol neu werth gyfun sydd i gael ei gyfrifo.

(1)

Gellir prynu copïau o gyhoeddiadau'r Sefydliad Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Farchnata'r Sefydliad Safonau Prydeinig ('BSI') naill ai dros y ffôn (0208 996 9001) neu drwy'r post o BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL, http://www.bsi-global.com

(2)

Cyhoeddiad y Pwyllgor Ewropeaidd ar Safoni (“CEN”), cyfeiriad CEN yw 36, Rue de Stassart, B-1050, Brwsel, Gwlad Belg http://www.cenorm.be

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill