- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd” yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Mae [X](3) a elwir yn y Gorchymyn hwn “yr awdurdod”) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](4).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](5).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](6), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno (7), oni bai—
(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b)ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “swyddog awdurdodedig o Awdurdod” yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](8)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](9)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](10)
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.
Penner pa un sy'n berthnasol.
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.
Penner pa un sy'n berthnasol.
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys