- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu lwfans (“lwfans sylfaenol”) am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi i bob aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd a rhaid i swm y cyfryw lwfans fod yr un swm i bob aelod o'r fath.
(2) O ran lwfans sylfaenol, ni chaniateir i swm y mae gan bob aelod awdurdod sy'n gynghorydd hawl iddo, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw —
(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(i);
(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.
(3) Rhaid i gynllun ddarparu, pan fydd tymor mewn swydd aelod yn cychwyn neu'n gorffen ar ddyddiad ac eithrio dechrau neu ddiwedd y flwyddyn, y bydd hawl yr aelod hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sylfaenol ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod fel cynghorydd yn ystod y flwyddyn honno fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
(4) Os caiff cynllun ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad yw tymor mewn swydd aelod sy'n gynghorydd yn para trwy gydol y cyfan o'r cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r cynllun ddarparu bod hawl unrhyw aelod o'r fath o dan y rheoliad hwn yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sylfaenol ag sy'n gymwys i bob cyfnod o'r fath ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod yn y cyfnod hwnnw fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod.
(5) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu nad oes mwy nag un lwfans sylfaenol yn daladwy i aelod o awdurdod.
(6) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan honno o lwfans sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol rhag eu cyflawni.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys