- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 2(1)
ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—
(a)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â—
(i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(1),
(ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1999(2),
(iii)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2081/92 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(3) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt(4),
(iv)cymhwyso'r rheolau a osodir ar gyfer tystysgrifau Cymunedol o natur benodol y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2082/92 ar dystysgrifau o natur benodol ar gyfer cynhychion amaethyddol a bwydydd (5) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt,
(v)rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(6) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(7),
(vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(8), a
(vii)rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid—
(aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(9), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a
(bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(10)), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth; a
(b)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gysylltiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988(11)); ac
(c)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3590 ac O.S. 2004/147.
O.S. 1999/3483, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1113, O.S. 2001/2420, O.S. 2001/3834, O.S. 2002/1767, O.S. 2002/2723, 2003/661, 2003/2591, 2004/676, 2004/1393, 2004/2559, 2005/432 a 2005/1725.
OJ No. L208, 24.7.92, t.1.
OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.
OJ No. L208, 24.7.92, t.9.
O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003.
O.S. 1996/3124, diwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S 2002/129 (Cy.17), O.S. 2003/3229 (Cy.309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys