Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Adolygu Cynlluniau Pontio

7.—(1Rhaid i Gynllun Pontio gael ei adolygu—

(a)os daw ysgol gynradd (“yr ysgol gynradd newydd”) yn ysgol gynradd sy'n bwydo i ysgol uwchradd y mae ganddi eisoes un neu ragor o ysgolion cynradd sy'n ei bwydo;

(b)os yw cyrff llywodraethu pob un o'r ysgolion o dan sylw o'r farn y gallai fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i adolygiadau gael eu gwneud; ac

(c)sut bynnag cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y Cynllun Pontio cyntaf ei gyhoeddi ac (yn ddarostyngedig i baragraff (14)) bob tair blynedd ar ôl hynny.

(2Diben adolygiad o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol a chorff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd, ar ôl cydadolygu'r Cynllun Pontio cyfredol a phwyso a mesur pa ddiwygiadau y mae'n angenrheidiol neu'n ddymunol eu gwneud iddo, yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd gan roi sylw, yn benodol, i farn corff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys.

(3Diben adolygiad o dan is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol yn pwyso a mesur a yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol adolygu'r cynllun ac, os bernir ei bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol ei ddiwygio, eu bod yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd.

(4Caniateir i gynllun sydd wedi'i adolygu o dan baragraff (1)(b) gael ei adolygu ymhellach o dan y paragraff hwnnw.

(5Yn dilyn adolygiad o dan baragraff (1)(a) rhaid adolygu'r Cynllun Pontio cyfredol neu lunio Cynllun Pontio newydd.

(6Os yw'r cyrff llywodraethu, yn sgil adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), yn penderfynu peidio ag adolygu (neu amnewid) y Cynllun Pontio cyfredol, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad sy'n cofnodi'r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi rhesymau cryno drosto (“Datganiad”)

(7Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) gael ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi neu cyn hynny, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.

(8Ym mharagraff (7), ystyr “y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi” yw blwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn y trosglwyddodd disgyblion cyntaf yr ysgol gynradd newydd (fel ysgol gynradd sy'n bwydo) ar ei dechrau i'r ysgol uwchradd.

(9Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), y disgyblion cyntaf o'r ysgol gynradd newydd y mae'r Cynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig yn gymwys iddi yw'r disgyblion hynny sy'n disgwyl trosglwyddo i'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.

(10Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(11Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(c), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi ar ddiwedd neu cyn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun Pontio cyfredol, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.

(12Yn y rheoliad hwn ystyr “y Cynllun Pontio cyfredol” yw'r Cynllun Pontio sy'n gyfredol adeg yr adolygiad.

(13Yn y Rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 mae i'r gair “Datganiad” yr ystyr sydd iddo ym mharagraff (6) o'r rheoliad hwn.

(14Pan fo Cynllun Pontio yn cael ei ddiwygio neu ei amnewid ar ôl adolygiad o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1), bydd y cyfnodau o dair blynedd rhwng adolygiadau, sef y cyfnodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, yn rhedeg o hyn ymlaen o'r dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun diwygiedig neu newydd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill