Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwn at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

(1)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10. Nid yw diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Diwygiwyd adran 619 gan Ddeddf Cyllid 1989 (p. 26), adran 170 a Deddf Cyllid 1996 (p. 8), adran 135 ac Atodlen 21. Diwygiwyd adran 639 gan Ddeddf Cyllid 2000 (p. 17), Atodlen 13. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.

(2)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill