- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i erthyglau 11 a 23, a heb leihau effaith gofynion Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985(1), ni chaiff person symud anifail buchol o unrhyw fangre oni bai fod prawf croen wedi'i wneud arno ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y symud.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r anifeiliaid canlynol—
(a)anifeiliaid buchol mewn buchesau sy'n ddarostyngedig i gael eu profi'n rheolaidd ar gyfer twbercwlosis yn llai aml nac unwaith bob dwy flynedd;
(b)anifeiliaid buchol sydd o dan 6 wythnos oed ar ddyddiad y symud;
(c)anifeiliaid buchol sydd wedi bod yn bresennol yn y fangre am ddim mwy na 30 diwrnod ar ddyddiad y symud;
(ch)anifeiliaid buchol sy'n ddarostyngedig i brofion blynyddol rheolaidd am y rhesymau canlynol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn unig—
(i)eu bod ar fferm y mae'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ystyried ei bod yn fferm agored;
(ii)eu bod yn rhan o fuches y mae'r Arolygiaeth Hylendid Llaeth wedi'i chymeradwyo ar gyfer gwerthu llaeth buwch crai ar gyfer ei yfed yn syth i'r defnyddiwr terfynol, un ai drwy fanwerthu llaeth potel neu fel rhan o fusnes arlwyo ar y fferm;
(iii)eu bod yn rhan o fuches y defnyddir llaeth buwch crai yn rheolaidd ohoni ar gyfer cynhyrchu caws heb ei basteureiddio neu unrhyw gynhyrchion llaeth eraill heb eu pasteureiddio;
(d)anifeiliaid buchol sydd mewn canolfan gasglu semen wedi'i chymeradwyo.
(3) At ddibenion paragraff (1), dyddiad y prawf yw dyddiad y pigiad gyda thwbercwlin.
(4) At ddibenion paragraff (2) (ch) (i) o'r erthygl hon, ystyr “fferm agored” (“open farm”) yw fferm sy'n agored ar gyfer ymweliadau gan y cyhoedd neu adrannau o'r cyhoedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys