- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau cyn cychwyn y cyfnod pan sicrheir bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill ar gael yn unol â rheoliad 13, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 10(2) yn gymwys iddo, roi hysbysiad drwy hysbyseb o'r materion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a)y cyfnod y bydd y cyfrifon a'r dogfennau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael ar gyfer archwiliad yn unol â rheoliad 13;
(b)y lle a'r amser pan fyddant ar gael;
(c)enw a chyfeiriad yr archwilydd;
(ch)y darpariaethau a gynhwysir yn adran 30 a 31 o Ddeddf 2004; a
(d)y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 12.
(3) Rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3) arddangos hysbysiad sy'n cynnwys —
(a)yn ddarostyngedig i is–baragraff (b), yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) uchod mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn y cyfnod pan sicrheir bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill ar gael o dan reoliad 13; neu
(b)yn hytrach na'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(b) uchod, manylion am y dull y dylid rhoi hysbysiad o fwriad i archwilio'r cyfrifon a'r dogfennau eraill.
(4) Rhaid i gorff llywodraeth leol wrth roi hysbysiad drwy hysbyseb neu arddangos hysbysiad o dan baragraff (1) neu (3) uchod hysbysu'r archwilydd ar unwaith yn ysgrifenedig bod hysbysiad wedi cael ei roi neu ei arddangos.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys