- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Wrth wneud asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, rhaid i awdurdod lleol—
(a)rhoi sylw i'r ystyriaethau a ganlyn, sef—
(i)anghenion y person sy'n cael ei asesu a sut y gellir eu diwallu;
(ii)anghenion y plentyn perthnasol ac aelodau teulu unrhyw warcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig, i'r graddau nad aed i'r afael â hwy o dan bennawd (i) uchod, a sut y gellir eu diwallu;
(iii)yr amgylchiadau a arweiniodd at wneud GGA o ran plentyn sy'n destun GGA;
(iv)unrhyw anghenion arbennig sydd gan blentyn sy'n destun GGA sy'n codi oherwydd—
(aa)bod y plentyn wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol;
(bb)bod y plentyn wedi preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain; neu
(cc)bod y gwarcheidwad arbennnig yn berthynas i'r plentyn; a
(v)os yw'r asesiad yn ymwneud â chymorth ariannol, gofynion rheoliad 7.
(b)cyfweld â'r person yr asesir ei anghenion ac, os yw'r person hwnnw yn blentyn sy'n destun GGA, y gwarcheidwad arbennig; ac
(c)os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai bod angen darparu gwasanaethau i'r person yr asesir ei anghenion gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, ymgynghori â'r Bwrdd hwnnw, yr Ymddiriedolaeth honno neu'r awdurdod hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig—
(a)yn cael ei wneud gan, neu o dan oruchwyliaeth, unigolyn sydd â'r cymwysterau, profiad a sgiliau addas at y diben hwnnw; a
(b)llunio adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys