- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1) —
(a)dileer y diffiniad o “cais am gymorth arwynebedd” (“area aid application”);
(b)yn y diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) yn lle'r geiriau “cais am gymorth ardal” rhodder y geiriau “cais sengl”;
(c)mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
“ystyr “Cod Ymarfer Ffermio Da (“Code of Good Farming Practice”) yw'r darpariaethau Ymarfer Ffermio Da a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 — 2006(1);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 796/2004” (“Commission Regulation 796/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004(2) sy'n gosod rheolau manwl ar drawsgydymffurfio, modwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(ch)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999” (“Commission Regulation 1750/1999”) —
““ystyr “Rheoliad y Comisiwn 817/2004” (“Commission Regulation 817/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004(3) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);”;
(d)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999(4)1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;”;
(dd)dileer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”);
(e)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(5) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;”;
(f)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel” (“Hill Livestock Compensatory Allowances”) neu (“HLCA”) yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);”;
(ff)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “IACS” —
“ystyr “IACS” yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd o dan Bennod 4 o Reoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(g)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
“mae i “cais sengl” yr ystyr a roddir i “single application” yn erthygl 2(11) o Reoliad y Comisiwn 796/2004;”.
Paratowyd ef gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gyntaf ar 11 Hydref 2000 drwy Benderfyniad y Comisiwn C(2000) 2932 gydag addasiadau dilynol a gymeradwywyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn C(2002) 1743 a C(2003) 1432.
OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 239/2005 (OJ Rhif L042, 12.2.2005, t.3).
OJ Rhif L153, 30.4.2004, t.30, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L231, 30.6.2004, t.24).
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1899/2004 (OJ Rhif L328, 30.10.2004, t.67).
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 118/2005 (OJ Rhif L024, 27.1.2005, t.15).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys