- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys —
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'n gyffredinol y gwaith y cynigir ei gyflawni neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r gwaith arfaethedig;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith arfaethedig;
(c)gwahodd sylwadau ysgrifenedig, mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig; a
(ch)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Rhaid hefyd i'r hysbysiad wahodd pob tenant a'r gymdeithas (os oes un) i gynnig, o fewn y cyfnod perthnasol, enw person y dylai'r landlord geisio cael ganddo amcangyfrif mewn cysylltiad â chyflawni'r gwaith arfaethedig .
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r gwaith arfaethedig fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os gwneir sylwadau gan unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4.—(1) Os ceir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (pa un a geir enwebiad gan unrhyw denant ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.
(2) Os ceir enwebiad gan un o'r tenantiaid yn unig (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.
(3) Os ceir un enwebiad gan fwy nag un tenant (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan y person a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau; neu
(b)os nad oes person o'r fath, ond bod dau (neu fwy) o bersonau wedi derbyn yr un nifer o enwebiadau, a bod y nifer hwnnw'n fwy na'r enwebiadau a gafodd unrhyw berson arall, oddi wrth un o'r ddau berson hynny (neu fwy); neu
(c)mewn unrhyw achos arall, gan unrhyw berson a enwebwyd.
(4) Os ceir mwy nag un enwebiad gan unrhyw denant a mwy nag un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan o leiaf un person a enwebwyd gan denant; a
(b)gan o leiaf un person a enwebwyd gan y gymdeithas, ac eithrio person y gofynnir iddo am amcangyfrif fel y crybwyllir ym mharagraff (a).
(5) Rhaid i'r landlord, yn unol â'r is-baragraff hwn ac is-baragraffau (6) i (9)—
(a)cael amcangyfrifon am gyflawni'r gwaith arfaethedig;
(b)cyflenwi'n rhad ac am ddim ddatganiad (“datganiad paragraff (b)”) sy'n nodi—
(i)o ran o leiaf ddau o'r amcangyfrifon, y swm a benodwyd sydd yn yr amcangyfrif fel cost amcangyfrifedig y gwaith arfaethedig; a
(ii)crynodeb o unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â pharagraff 3 ac ymateb y landlord iddynt; a
(c)sicrhau bod yr holl amcangyfrifon ar gael i'w harchwilio.
(6) Rhaid i o leiaf un o'r amcangyfrifon fod yn amcangyfrif gan berson nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddo a'r landlord.
(7) At ddiben paragraff (6), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng person a'r landlord—
(a)os cwmni yw'r landlord, os yw'r person yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu os yw'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(b)os cwmni yw'r landlord, bod y person yn bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(c)os cwmnïau yw'r landlord a'r person ill dau, os yw unrhyw un o gyfarwyddwyr neu reolwyr un cwmni yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni arall;
(ch)os cwmni yw'r person, os yw'r landlord yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath; neu
(d)os cwmni yw'r person a bod y landlord yn bartner mewn partneriaeth, os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath.
(8) Os yw'r landlord wedi cael amcangyfrif gan berson a enwebwyd, rhaid i'r amcangyfrif hwnnw fod yn un o'r rhai y mae a wnelo datganiad paragraff (b) â hwy.
(9) Rhaid rhoi datganiad paragraff (b) i'r canlynol a sicrhau bod yr amcangyfrifon ar gael i'w harchwilio ganddynt—
(a)pob tenant; a
(b)ysgrifennydd y gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os oes un).
(10) Rhaid i'r landlord, drwy hysbysiad ysgrifenedig a anfonir at bob tenant ac at y gymdeithas (os oes un)—
(a)pennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio'r amcangyfrifon;
(b)gwahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r amcangyfrifon hynny;
(c)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(11) Bydd paragraff 2 yn gymwys i amcangyfrifon a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith arfaethedig a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
5. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r amcangyfrifon, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
6. Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os bydd y landlord yn ymrwymo i gontract ar gyfer cyflawni gwaith cymwys, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r contract, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os oes un)—
(a)datgan y rhesymau dros ddyfarnu'r contract neu nodi ym mha le a pha bryd y gellir archwilio datganiad o'r rhesymau hynny; a
(b)rhoi crynodeb o'r sylwadau a nodi ymateb y landlord iddynt, os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 5).
(2) Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person yr ymrwymwyd i'r contract gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.
(3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith cymwys a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys