- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod stryd”, mewn perthynas â stryd, yr un ystyr ag sydd i “street authority” yn Rhan III o'r Ddeddf Gwaith Stryd;
ystyr “y ceblau cludo i'r môr” (“the marine feeder cables”) yw'r ceblau a geir yng Ngwaith Rhif 2;
ystyr “y ceblau rhyngdyrbinau” (“the inter-turbine cables”) yw'r ceblau a ddisgrifir ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
mae i “cerbytffordd”, “llwybr troed”, “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag sydd i “carriageway”, “footpath”, “highway” a “highway authority” yn Neddf Priffyrdd 1980(1);
ystyr “cwch” (“vessel”) yw llong, cwch, rafft, neu fad o ba ddisgrifiad bynnag, ac mae'n cynnwys unrhyw fad nad yw'n dadleoli, awyrennau môr ac unrhyw beth arall a adeiladir neu a addasir er mwyn arnofio ar ddŵr neu i'w roi dan ddŵr (boed hynny'n barhaol neu dros dro), a hofranfad neu gerbyd amffibiaidd arall;
ystyr “cyfeirbwynt” (“reference point”) yw cyfeirbwynt Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans;
ystyr “y cyfeirlyfr” (“the book of reference”) yw'r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;
mae “cynnal a chadw” (“maintain”, “maintenance”) yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, trwsio, addasu, newid, symud, ailadeiladu ac amnewid;
ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(2);
ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(3);
ystyr “y Ddeddf Gwaith Stryd” (“the Street Works Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(4));
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw orchymyn, is-ddeddf, rheol, rheoliad, cynllun neu offeryn arall sydd ag effaith yn rhinwedd deddfiad;
ystyr “gwaith llanw'r môr” (“tidal work”) yw rhywfaint o unrhyw waith awdurdodedig sydd ar, o dan neu dros ddyfroedd y llanw;
ystyr “y gweithfeydd a restrwyd” (“the scheduled works”) yw'r gweithfeydd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ran ohonynt;
ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gweithfeydd a restrwyd, y gweithfeydd a'r cyfleusterau a ddisgrifir yn erthygl 3(4), a'r mast presennol ac eithrio yn erthyglau 8 i 17;
ystyr “lefel y dŵr uchel” (“the level of high water”) yw lefel y llanwau mawr uchel cymedrig;
mae i “llinell drydan” yr un ystyr ag sydd i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(5);
ystyr “y mast presennol” (“the existing mast”) yw'r mast anemometreg presennol sydd ar wely Bae Abertawe ac sy'n cydffinio â'r arfordir wrth Bort Talbot ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac a leolir wrth gyfeirbwynt 271709Dn, 176723G;
ystyr “y peilon trydan presennol” (“the existing electricity pylon”) yw'r peilon trydan wrth gyfeirbwynt 278906Dn, 185778G ac mae'n cynnwys unrhyw gyfarpar sy'n atodol i'r peilon hwnnw;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â thir, yw person, ac eithrio morgeisai nad yw'n meddu ar dir, sydd am y tro â'r hawl i waredu ffi syml y tir (boed hynny mewn meddiant neu rifersiwn) ac y mae'n cynnwys person sy'n dal y tir, neu sydd â'r hawl i gael y rhenti a'r elw o'r tir, pan fo'r tir hwnnw o dan les neu denantiaeth sydd â mwy na 3 blynedd ar ôl i redeg;
ystyr “planiau'r gweithfeydd” (“the works plans”) yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel planiau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;
ystyr “planiau'r tir” (“the land plans”) yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y planiau tir at ddibenion y Gorchymyn hwn; ac mae cyfeiriadau at dir a ddangosir yn y planiau hynny yn gyfeiriadau at dir a ddangosir felly yn unol â rheol 12(5);
ystyr “y Rheolau Ceisiadau” (“the Applications Rules”) yw Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Cyflwyno Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2000(6); ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at reolau â Rhif yn gyfeiriadau at y rheolau sy'n dwyn y Rhif au hynny yn y Rheolau Ceisiadau;
ystyr “safle'r fferm wynt” (“the wind farm site”) yw'r ardal a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd o fewn terfynau'r gwyro ar gyfer y ceblau rhyngdyrbinau;
mae “stryd” (“street”) yn cynnwys rhan o stryd;
ystyr “terfynau'r gwyro” (“the limits of deviation”), mewn perthynas â gweithfeydd, yw'r terfynau gwyro ar gyfer y gweithfeydd hynny a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;
ystyr “y trawsluniau (“the sections”) yw'r trawsluniau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y trawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;
ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw'r Tribiwnlys Tiroedd;
ystyr “Trinity House” yw “the Corporation of the Trinity House of Deptford Strond”;
ystyr “tyrbin gwynt” (“wind turbine”) yw cynhyrchydd tyrbin gwynt fel a ddisgrifir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw Scarweather Sands Limited neu unrhyw berson y trosglwyddwyd y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn iddo drwy gytundeb yn unol ag erthygl 37;
(2) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu yn y gofod awyr sydd uwchben ei arwynebedd.
(3) Dehonglir pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwyntiau a geir yn unrhyw ddisgrifiad o weithfeydd, pwerau neu diroedd fel pe bai'r geiriau “fwy neu lai” wedi'u mewnosod ar ôl pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwynt o'r fath.
(4) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at waith a nodir gan rif y gwaith fel cyfeiriad at y gwaith sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn.
(5) Dehonglir cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at bwyntiau a nodir gan lythrennau fel cyfeiriadau at y pwyntiau sy'n dwyn y llythrennau hynny ar blaniau'r gweithfeydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: