- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “cyfnod adsefydlu” yr un ystyr â “rehabilitation period” yn Neddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(1);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(2));
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
mae i “gorchymyn datgymhwyso”, “dedfryd gymhwysol”, “gorchymyn perthnasol” a “prif lys” yr un ystyron â “disqualification order”, “qualifying sentence”, “relevant order” a “senior court” yn y drefn honno yn adran 30 o Ddeddf 2000;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) —
os yw swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw berson, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae i “tramgwydd yn erbyn plentyn” mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd yng Nghymru a Lloegr yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26 o Ddeddf 2000;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw'r Tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(3);
ystyr “wedi'i ddatgymhwyso” neu “wedi'u datgymhwyso” (“disqualified”) yw wedi'i ddatgymhwyso neu wedi'u datgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd am gofrestriad o dan Ran XA o'r Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: