- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Rhaid i berson sy'n gwneud apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 174(3) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(2) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn erbyn hysbysiad gorfodi anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ysgrifenedig—
(a)sy'n nodi'r seiliau y mae'r apêl yn cael ei wneud arnynt; ac
(b)sy'n rhoi yn gryno y ffeithiau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt i gefnogi pob un o'r seiliau hynny,
ac os nad anfonir datganiad o'r fath gyda'r apêl, rhaid i'r apelydd ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol nid hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn anfon at yr apelydd hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
6. Pan gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o dan reoliad 5, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig bod apêl wedi'i wneud a rhoi copi o'r apêl a'r datganiad a wnaed o dan reoliad 5 i'r awdurdod cynllunio lleol.
7. Os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn cael hysbysiad o dan reoliad 6 bod apêl wedi'i gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, nid hwyrach na 14 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, gopi ardystiedig o'r hysbysiad gorfodi a rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau y mae copi o'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddynt o dan adran 172(2) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 38(4) o Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ôl y digwydd.
8.—(1) Os yw apêl wedi'i wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac at unrhyw berson y mae copi o'r hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno iddo, ddatganiad sy'n dangos y cyflwyniadau y mae'n bwriadu rhoi gerbron ynglŷn â'r apêl, gan gynnwys—
(a)crynodeb o ymateb yr awdurdod i bob sail i'r apêl y mae'r apelydd yn ei wneud; a
(b)datganiad sy'n dweud a fyddai'r awdurdod yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio i'r materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri'r rheolaeth gynllunio, neu roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth i'r gwaith y mae'r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn berthnasol iddo, yn ôl y digwydd, ac, os felly, yn rhoi manylion am yr amodau, os oes rhai, y byddai am eu gorfodi ar y caniatâd neu'r cydsyniad.
(2) Rhaid i unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol ei anfon o dan baragraff (1) gyrraedd o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “dyddiad dechrau” yw dyddiad—
(a)hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9; neu
(b)hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheolau a wnaed o dan adran 9 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 sy'n hysbysu'r apleydd a'r awdurdod cynllunio lleol bod ymchwiliad neu wrandawiad, yn ôl y digwydd, i'w gynnal, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
9. Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod pob dogfen sydd ei hangen i'w alluogi iddo i ystyried yr apêl wedi cyrraedd, rhaid iddo anfon hysbysiad i'r perwyl hwn at yr apelydd ac i'r awdurdod cynllunio lleol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys