- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 2
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Nodiadau: 1. Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl(1) ac unrhyw fitamin. 2. Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig a bennir ym mharagraff 1(d) i (e), mae caniatâd i ychwanegu swm ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% o ran pwysau'r cynnyrch gorffenedig. 3. Heb leihau effaith gyffredinol Ran V o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(2), preserfir cynhyrchion dynodedig drwy'r dulliau canlynol, sef — (a) trin â gwres, ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o'r Atodlen hon; (b) ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o'r Atodlen hon; (c) dadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon. 4. Penderfynir ar lefelau'r deunydd sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgarwch ffosffotas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â'r dulliau yng Nghyfarwyddeb 79/1067. | |
1. Partly dehydrated milk | |
Types of unsweetened condensed milk | |
(a)Condensed high-fat milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% braster, ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth. |
(b)Condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth. |
(c)Condensed, partly skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth. |
(ch)Condensed skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth. |
Types of sweetened condensed milk | |
(d)Sweetended condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn, neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% braster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth. |
(dd)Sweetened condensed, partly skimmed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu iwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 8% braster, ac nid llai na 24% o gyfanswm o solidau llaeth. |
(e)Sweetened condensed milk | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth. |
2. Totally dehydrated milk | |
(a)Dried high-fat milk neu high-fat milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% braster. |
(b)Dried whole milk neu whole milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% ac nid llai na 42% braster. |
(c)Dried partly skimmed milk neu partly skimmed milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster o dros fwy na 1.5% a llai na 26% yn ôl pwysau. |
(ch)Dried skimmed milk neu skimmed milk powder | Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1.5% braster. |
OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.
O.S. 1995/1086, diwygiad perthnasol a wnaed gan O.S. 1996/1699.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys