- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Rhaid i berson beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant o dan wyth oed.
(2) Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant ar ei ben ei hun neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, ac yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3); neu
(b)yn achos person sy'n darparu gofal dydd, yn gorff a—
(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) sy'n un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion y corff neu'n un o'i swyddogion eraill ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith darparu gofal dydd o'r fath; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i ofalu am blant o dan wyth oed;
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth oed;
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) wedi'i dwyn i rym.
(5) Nid yw person yn addas i weithredu fel gwarchodwr plant nac i ddarparu gofal dydd—
(a)os yw'r person wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi'i hatafaelu ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau a bod y gorchymyn methdaliad heb ei ddirymu nac wedi'i ddadwneud; neu
(b)os yw'r person wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.
5.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw
(a)i'r datganiad o ddiben, nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o anabledd), a
(b)i'r angen i ddiogelu a hybu eu lles,
weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.
(3) Os corff sy'n darparu gofal dydd yw'r person cofrestredig rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
6.—(1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn sy'n gyfrifol wedi'i gael yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid i'r person a gafwyd yn euog hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith o'r canlynol:
(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn,
(b)y tramgwydd y cafwyd y person yn euog ohono, ac
(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(2) rhaid i'r person hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono a dyddiad a man y cyhuddiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys