- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon gan awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu ar gyfer taliad i bob aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd lwfans presenoldeb (“lwfans presenoldeb”) mewn perthynas â dyletswydd a gymeradwywyd nad yw'n ddyletswydd a eithrir a'r amser a dreulir wrth deithio i leoliad ac ohono lle mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni.
(2) Rhaid pennu swm y lwfans presenoldeb yn y cynllun a gall amrywio yn ôl amser y dydd a hyd y ddyletswydd ond rhaid mai'r un swm ydyw i holl aelodau'r awdurdod sydd â hawl i gael y lwfans mewn perthynas â dyletswydd o unrhyw ddisgrifiad am yr un amser yn y dydd ac am yr un hyd.
(3) Caiff cynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr gan ddechrau ar yr amser y gall yr awdurdod ei bennu.
(4) Rhaid i gynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb
(a)o ran dyletswydd a gymeradwywyd y mae gan yr aelod hwnnw hawl i daliad lwfans colled ariannol mewn perthynas â hi o dan reoliad 11; neu
(b)pe bai taliad o'r fath yn groes i ddarpariaeth a wneir drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys