- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 1(2) a 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu |
£ | ||
NODIADAU I'R ATODLEN Erthygl 2(4) | ||
Nodyn i golofn 1 | ||
(1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 1999/2000 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(5) o Reoliad 1765/92 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 7(4) o Reoliad 1765/92 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at gweithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid. O 1 Gorffennaf 2000 ymlaen mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid. | ||
Nodiadau i golofn 3 | ||
(1) Didynner £103 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4d o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)(1). Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)(1). Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)(1). | ||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis. Didynner £82 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4b o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)(1). Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu . Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu . Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £82 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £82 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £82 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm anarddwysáu ) y swm o £26 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa is) neu £37 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa uwch). | ||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | ||
(4) Didynner £22 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor. | ||
(5) Didynner £17 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol. | ||
(6) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1765/92 y Cyngor (Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor)(2). | ||
(7) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(8) Didynner £467 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(9) Didynner £240 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(10) Didynner £303 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(11) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(12) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
1. Da byw | ||
Buchod llaeth: | ||
Bridiau Ynysoedd y Sianel | buwch | 283 |
Bridiau eraill | buwch | 335 |
Buchod bridio cig eidion: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(a) | buwch | 50(1) |
Ar dir arall | buwch | 41(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) | pen | 48(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 41(3) |
Mamogiaid: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 | mamog | 20(4) |
Ar dir arall | mamog | 21(5) |
Wŷn stôr (gan gynnwys wŷn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) | pen | 0.87 |
Moch: | ||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 90 |
Moch porc | pen | 2.06 |
Moch torri | pen | 3.66 |
Moch bacwn | pen | 5.13 |
Dofednod: | ||
Ieir dodwy | aderyn | 1.08 |
Brwyliaid | aderyn | 0.12 |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.27 |
Tyrcwn | aderyn | 1.23 |
2. Cnydau âr fferm | ||
Haidd | hectar | 158(6) |
Ffa | hectar | 75(7) |
Had glaswellt | hectar | 189 |
Had llin | hectar | 137(8) |
Ceirch | hectar | 142(9) |
Rêp had olew | hectar | 164(10) |
Pys: | ||
Sych | hectar | 61(11) |
Dringo | hectar | 257 |
Tatws: | ||
Cynnar cyntaf | hectar | 675 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 790 |
Betys siwgr | hectar | 357 |
Gwenith | hectar | 201(12) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | ||
Ffa cyffredin | hectar | 409 |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1460 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro | hectar | 1684 |
Moron | hectar | 2307 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 1017 |
Seleri | hectar | 6175 |
Cennin | hectar | 3255 |
Letys | hectar | 3914 |
Wynwns: | ||
Bylbiau sych | hectar | 1087 |
Salad | hectar | 4477 |
Bylbiau awyr agored | hectar | 1416 |
Pannas | hectar | 2539 |
Riwbob (naturiol) | hectar | 3096 |
Maip a swêds | hectar | 1289 |
4. Cnydau gwarchodedig | ||
Narsisi gorfod | 1000 metr sgwâr | 8294 |
Tiwlipau gorfod | 1000 metr sgwâr | 6226 |
Madarch | 1000 metr sgwâr | 11272 |
5. Ffrwythau'r berllan | ||
Afalau: | ||
Seidr | hectar | 603 |
Coginio | hectar | 1412 |
Melys | hectar | 1378 |
Ceirios | hectar | 1297 |
Gellyg | hectar | 1100 |
Eirin | hectar | 1030 |
6. Ffrwythau meddal | ||
Cyrens Duon | hectar | 1093 |
Eirin Mair | hectar | 1579 |
Mafon | hectar | 2974 |
Mefus | hectar | 3093 |
7. Amrywiol | ||
Hopys | hectar | 1700 |
8. Neilltir(1) | hectar | 62 |
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys