- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Nid yw'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 19(1)(c), ac nid yw'n debyg o wneud hynny oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo felly.
2. Mae'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30 a 33—
(a)heb gymryd camau rhesymol i gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol yn ôl adran 25(2) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 31(5), rheoliad 17(4), rheoliad 20(1)(c) neu (d)(iii) neu reoliadau o dan adran 30, 33 neu 31(7); neu
(b)heb roi sylw priodol i'r ymateb i'r ymgynghori hwnnw; neu
(c)heb gynnal yr ymgynghori hwnnw mewn modd sy'n deg ac yn gyson â chanllawiau ynghylch mater yr ymgynghori hwnnw.
3. Nid yw cynigion yr awdurdod—
(a)yn cydymffurfio â gofynion is-adrannau (3) a (6) o adran 25 neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(1)(a) neu (b) a (5) neu reoliad 20(1)(a) a (b), (d)(i) a (ii) a (2) neu unrhyw ddarpariaeth gymaradwy mewn rheoliadau o dan adrannau 30 a 33;
(b)yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan adran 31(7) o'r Ddeddf; neu
(c)yn foddhaol mewn unrhyw ystyr arall.
4. Mae'r cyfnod rhwng unrhyw gamau dilynol a gynigir yn yr amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion yr awdurdod ar waith a gynhwyswyd mewn cynigion a luniwyd o dan adran 25, neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(3)(a), rheoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30, 33 neu 31(7)—
(a)yn afresymol o hir; neu
(b)yn torri unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan Ran II o'r Ddeddf.
5. Mae'r awdurdod wedi methu â rhoi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion hynny.
6. Mae'r awdurdod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys