- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), rhaid peidio â chynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd o dan reoliad 18 yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y cyfarwyddyd neu, mewn achos y mae paragraff (6) o reoliad 7 yn gymwys iddo, y dyddiad a drinnir, yn unol â'r paragraff hwnnw, fel dyddiad y cyfarwyddyd.
(2) Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 20(5).
(3) Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal—
(a)ar ddydd Sadwrn na dydd Sul,
(b)ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith nac ar ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru, nac
(c)ar unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod diolchgarwch neu alar cyhoeddus.
(4) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.
(5) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25, yn llunio cynigion wrth-gefn amlinellol neu gynigion ar gyfer gweithreu trefniadau gweithrediaeth; a
(b)yn cyfarwyddo awdurdod i gynnal refferendwm ar y cynigion hynny,
rhaid i'r awdurdod gynnal y refferendwm heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad cyfarwyddyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys