Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 4

ATODLEN 6DANGOSYDDION TRAFNIDIAETH

Rhif y dangosyddDisgrifiad y dangosyddManylion y dangosydd
NAWPI 6.1Cost cynnal priffyrdd am bob km a deithir gan gerbyd ar y prif ffyrdd Y ffigur ym mlwch memorandwm M2 ar y ffurflen Alldro Cyfalaf ddiweddaraf COR1 plws llinell 2 (cynnal strwythurol) a 4 (cynnal rhigolaidd) ar y ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf colofn 7; wedi'i rannu â'r ffigur am gilometrau cerbydau sy'n deillio o Dabl A yn setliad diweddaraf y Grant Cynnal Refeniw.
NAWPI 6.2Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwrY gwariant net (llinell 11 ffurflen RO2) ar gymhorthdal gwasanaethau bysiau lleol, fel y'i diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (1985 p.67), yn y flwyddyn ariannol, wedi'i rannu â nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y gwasanaethau hynny yn y flwyddyn honno. Ni ddylai hyn gynnwys gwariant ar gynlluniau tocynnau gostyngedig o dan adrannau 93 i 105 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
NAWPI 6.3

Cyflwr y ffyrdd

(a)

Cyflwr y prif ffyrdd

(b)

Cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd

a)

Naill ai:

Arolwg gweledol o hyd yr holl briff ffyrdd yn y flwyddyn gan ddefnyddio Arolwg Archwilio Gweledol Bras (arolwg sy'n cofnodi diffygion ffyrdd a nodir drwy eu gweld). Cynhelir yr arolwg o dan Reolau a Pharamedrau System Rheoli v Pafinau'r Deyrnas Unedig (UKPMS), fersiwn 2.0 Bydd yr arolwg yn cynnwys y rhwydwaith cyfan heblaw'r rhan a enwebir ar gyfer “archwiliad tybiedig” — rhaid cyfyngu honno i 30% ov rwydwaith prif ffyrdd yr awdurdod. Gofynnir i'r awdurdodau gwerth gorau ddynodi'r ganran o'r rhwydwaith sydd â sgôr diffygion UKPMS o 70 neu'n uwch.

Neu:

Y ganran o'r rhwydwaith ag oes weddilliol negyddol, yn deillio o arolygon defflectograff (arolygon mecanyddol yn defnyddio offer sy'n asesu cyflwr strwythurol y ffordd drwy fesur faint y mae'n gwyro o dan lwyth).

Dangosydd: Y ganran o'r rhwydwaith priff ffyrdd cymwys ar 1 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag iddo oes weddilliol negyddol.

b)

Nid yw ffyrdd diddosbarth i gael eu cynnwys yn y dangosydd hwn.

NAWPI 6.4Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio

Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio.

Cyfrifir hyn fel:

{(W * Y)/Z} * 100

lle W yw cyfanswm y methiannau goleuadau stryd a welwyd yn y flwyddyn drwy archwiliadau rheolaidd a dulliau eraill wedi'u rhannu â 365;

Y yw'r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i drwsio'r golau stryd ar ôl ei weld plws hanner yr amser ar gyfartaledd rhwng yr archwiliadau; a

Z yw cyfanswm y goleuadau stryd yn yr awdurdod. gwerth gorau.

Archwiliadau gan yr awdurdod gwerth gorau neu ei asiantaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn yw “archwiliadau rheolaidd”. Os yw'r awdurdod gwerth gorau yn archwilio ei oleuadau yn fwy aml neu'n llai aml, dylai weithio'r ganran ar gyfer pob amledd drwy ddefnyddio'r fformwla uchod ac wedyn cyfuno'r canrannau yn un cyfartaledd wedi'i bwysoli.

NAWPI 6.5Diogelwch ffyrdd

Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl (i) natur yr anafusion a (ii) y math o ddefnyddiwr ffordd.

Categorïau'r anafusion: a) wedi'u lladd/wedi'u hanafu'n ddifrifol; b) mân anafiadau. Mathau o ddefnyddiwr ffordd: a) cerddwyr; b) beicwyr; c) defnyddwyr cerbyd modur dwy-olwyn; ch) defnyddwyr ceir, a d) defnyddwyr cerbydau eraill.

Bydd y data'n cyfeirio at y flwyddyn galendr yn diweddu 15 mis cyn diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.

NAWPI 6.6Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig wedi'u hachosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif o safbwynt traffig

Cyfanswm y dyddiau yr oedd rheolaeth traffig dros dro (â llaw neu drwy gyfrwng goleuadau traffig) ar waith ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig neu pan oedd y ffordd ar gau, oherwydd gwaith ar ffyrdd yr awdurdodau gwerth gorau am bob km o ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig. (Peidiwch â chynnwys rheolaeth draffig wrth waith ffyrdd a gwblhawyd mewn llai na diwrnod).

Mae “sensitif o safbwynt traffig” yn golygu “traffic sensitive” fel y'i diffiniwyd yn Rheoliad 13 o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (O.S. 1992/2985).

NAWPI 6.8Difrod i ffyrdd a phafinauCyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn.
NAWPI 6.9Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl

Ystyr croesfannau cerddwyr yw croesfannau sebra, pelican a thwcan, a goleuadau traffig gyda chyfnodau cerddwyr. Dylid cyfrif yr holl groesfannau mewn un set o oleuadau traffig, neu mewn un gylchfan, fel un groesfan yn unig. Yn yr un modd, dylid cyfrif yr holl groesfannau mewn un gylchfan fawr gyda chyfres o gylchfannau mini, fel un groesfan yn unig.

Er mwyn cymhwyso ar gyfer cael cyfleusterau i bobl anabl, dylai fod arwyneb cyffyrddol ar bob mynedfa at y groesfan ac ymyl y palmant wedi ei ostwng neu gyfuwch â'r groesfan; ac yn achos croesfannau pelican a goleuadau traffig, arwydd clywedol neu gyffyrddol i ddangos ei bod yn ddiogel i groesi'r ffordd.

NAWPI 6.10Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd

Mae'r dangosydd hwn yn gyfanswm hyd yr hawliau tramwy, sy'n hawdd ei defnyddio, fel canran o gyfanswm hyd yr holl hawliau tramwy Mae hawliau tramwy yn ymddangos ar y map diffiniadol o hawliau tramwy cyhoeddus ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau ac wedi'u rhifo.

Ystyr “hawdd eu defnyddio” yw:

a)

bod iddynt arwyddion neu farciau ffordd lle maent yn ymadael â'r ffordd yn unol â dyletswydd yr awdurdod gwerth gorau o dan adran 27 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968 (1968 p.41) ac i'r graddau angenrheidiol i ganiatáu defnyddwyr ddilyn y llwybr (gellir peidi â chynnwys yn y mesur yr hawl tramwy cyhoeddus sy'n gyfan gwbl o fewn ardal adeiledig gydawyneb caled ar ei holl hyd a'r llwybr wedi'i ddiffinio'n eglur);

b)

eu bod yn rhydd rhag rhwystrau anghyfreithlon neu ymyriadau eraill, (gan gynnwys llysdyfiant sy'n hongian drosodd) rhag hawl y cyhoedd i dramwyo;

c)

bod eu hwynebau a'r atalfeydd cyfreithiol (e.e.camfeydd a gatiau) mewn cyflwr da ac safon angenrheidiol i alluogi'r cyhoedd ddefnyddio'r ffordd heb ormod o anghyfleustra.

Dylai archwiliadau i asesu “hawdd eu defnyddio” gael eu seilio ar sampl hap fan lleiaf o 5% o hydoedd llwybrau yn y flwyddyn ariannol. Mae'r fethodoleg a gymeradwywyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer ei “Archwiliad Llwybrau Cymunedol” yng nghanol y 1990au yn briodol i asesu'r dangosydd hwn.

Dylai llwybrau fod yn “hawdd eu defnyddio” drwy gyfeirio at y math o ddefnyddiwr sydd â hawl i ddefnyddio'r llwybr (e.e. llwybrau troed i gerddwyr, a llwybrau march i rai ar gefn ceffylau).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill