- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r swm a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 4 o'r Atodlen;
(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.
(2) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, wedi'i seilio ar doriad o, neu fethiant i gydymffurfio ag—
(a)Erthyglau 19a.2, 20.1, 20a neu 21c.2 o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored—
(i)i fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu a ddefnddiwyd ar gyfer cyflawni'r tramgwydd, neu a ddefnyddiwyd ar gyfer dal unrhyw bysgod arall y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â hwy; a
(ii)i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu, ar gollfarn ddiannod yn unig, i ddirwy o ddim mwy na gwerth unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw; neu
(b)Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28c (mewn perthynas â'r gofynion ynglŷn â choflyfr a nodi dalfeydd ar fwrdd y cwch) neu 28d o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu i ddirwy o ddim mwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw.
(3) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(2) o'r Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, hwn yn agored —
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na £50,000;
(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys