Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(fel y'i cyflwynwyd gan adran 2)

ATODLEN 1GORFODI

Y gosb am fynd yn groes i adran 1(1)

1Mae unrhyw berson sy'n gwneud gwaith adeiladu nad yw, ar yr adeg a ragnodir gan adran 1(1), yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Terfyn amser ar erlyn

2(1)Er gwaethaf unrhyw beth a geir yn adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), caiff llys ynadon roi ar brawf hysbysiaeth sy'n ymwneud â thramgwydd o dan baragraff 1 os caiff ei gosod ar unrhyw adeg—

(a)o fewn cyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ar y diwrnod y cyflawnwyd y tramgwydd, a

(b)o fewn cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad perthnasol.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y daw tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau achos llys i sylw'r person sy'n cychwyn yr achos.

(3)Mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd gan awdurdod lleol—

(a)at ddibenion is-baragraff (2) uchod, ystyrir tystiolaeth yn ddigonol i gyfiawnhau achos os yw'n ddigonol ym marn y swyddog priodol neu'r swyddog awdurdodedig i gyfiawnhau achos, a

(b)bydd tystysgrif gan y swyddog priodol neu, yn ôl fel y digwydd, y swyddog awdurdodedig yn tystio i'r dyddiad y daeth y dystiolaeth sydd, ym marn y swyddog hwnnw, yn ddigonol i gyfiawnhau achos i sylw'r person sy'n cychwyn yr achos yn dystiolaeth derfynol o'r ffaith hwnnw.

Addasu gwaith tramgwyddus

3(1)Os na fydd gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio, ar yr adeg a ragnodir yn adran 1(1), â gofynion adran 1(4), ac os yw'r diffyg cydymffurfio â'r gofynion hynny yn parhau, caiff awdurdod lleol drwy hysbysiad ofyn i'r perchennog wneud y cyfryw addasiadau a all fod eu hangen er mwyn i'r gwaith gydymffurfio â'r gofynion hynny, a hynny heb ragfarnu hawl yr awdurdod i ddwyn achos am ddirwy mewn perthynas â'r tramgwyddo.

(2)Os gwneir gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo—

(a)heb roi'r wybodaeth sydd ei hangen yn ôl adran 3(1), neu

(b)er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3), a'r hysbysiad hwnnw'n parhau i fod mewn grym,

caiff yr awdurdod drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodir yn yr hysbysiad, a'r rheini'n ofynion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4).

(3)Os na fydd person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod yn cydymffurfio â'r hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy y mae llys ynadon yn ei ganiatáu ar apêl gan y person hwnnw o dan baragraff 5, caiff yr awdurdod lleol wneud unrhyw addasiadau i'r gwaith y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), a chaiff adennill gan y person hwnnw y costau y mae'r awdurdod wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud.

(4)Mewn perthynas â hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod (a elwir yn “hysbysiad paragraff 3”)—

(a)rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf a rhaid iddo gynnwys y cyfryw wybodaeth a all fod wedi'u rhagnodi,

(b)rhaid iddo ddatgan y caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo, o fewn yr amser a bennir gan baragraff 9, apelio yn erbyn yr hysbysiad i lys ynadon o dan baragraff 5, a

(c)ni chaniateir ei roi ar ôl i 12 mis fynd heibio oddi ar ddyddiad cwblhau'r gwaith dan sylw.

(5)Ni chaniateir rhoi hysbysiad paragraff 3 os rhoddwyd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan adran 3(1) i'r awdurdod ac os gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno, a hynny ar y sail nad oedd y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), oni bai bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol.

(6)Nid yw'r paragraff hwn yn amharu ar hawl awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall i wneud cais am waharddeb i gael addasu unrhyw waith ar y sail nad yw'n cydymffurfio â gofynion adran 1(4), ond os—

(a)rhoddwyd gwybodaeth mewn perthynas â'r gwaith i'r awdurdod lleol yn unol ag adran 3(1),

(b)na roddodd yr awdurdod yr hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol, ac

(c)gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno,

bydd gan y llys, adeg caniatáu'r waharddeb, y pŵer i orchymyn bod yr awdurdod lleol yn talu perchennog y gwaith yr iawndal y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn, ond, cyn gwneud y cyfryw orchymyn, rhaid i'r llys yn unol â rheolau'r llys drefnu bod yr awdurdod lleol yn un o bartïon yr achos, os nad ydyw eisoes.

Cael adroddiad lle rhoddir hysbysiad paragraff 3

4(1)Pan fydd—

(a)person sydd wedi cael hysbysiad paragraff 3 yn hysbysu'r awdurdod lleol a roddodd yr hysbysiad iddo o'i fwriad i gael adroddiad ysgrifenedig gan berson sydd wedi cymhwyso'n briodol ynghylch y gwaith y mae'r hysbysiad paragraff 3 yn perthyn iddo, a

(b)adroddiad o'r fath wedi'i gael ac wedi'i gyflwyno i'r awdurdod lleol ac os bydd yr awdurdod lleol, o ganlyniad i'w ystyriaeth ohono, yn tynnu yn ôl ei hysbysiad paragraff 3, caiff yr awdurdod lleol dalu'r person y rhoddwyd yr hysbysiad paragraff 3 iddo y swm y mae'r awdurdod yn barnu sy'n cynrychioli'r costau yr aed iddynt yn rhesymol gan y person o ganlyniad i'r hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod, gan gynnwys, ym mhlith pethau eraill, y gost o gael yr adroddiad.

(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) isod, os bydd person sydd wedi cael hysbysiad paragraff 3 yn rhoi hysbysiad ei hun o dan is-baragraff (1)(a) uchod o ran y materion y mae'r hysbysiad paragraff 3 yn perthyn iddynt, dehonglir y cyfeiriad at 28 o ddiwrnodau ym mharagraff 3(3) uchod fel cyfeiriad at 70 o ddiwrnodau.

(3)Rhaid rhoi'r hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) uchod cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(3) uchod, neu, yn ôl fel y digwydd, o fewn cyfnod hwy y mae'r llys yn ei ganiatáu o dan baragraff 3(3); ac ni fydd is-baragraff (2) uchod yn gymwys pan fydd cyfnod hwy wedi'i ganiatáu cyn rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) uchod.

Apelio yn erbyn hysbysiad paragraff 3

5(1)Caiff person sy'n cael hysbysiad paragraff 3 apelio i lys ynadon ar sail unrhyw un o'r canlynol os yw'n briodol o dan amgylchiadau'r achos penodol—

(a)nid oes modd cyfiawnhau'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad y mae'n ei orfodi gan delerau paragraff 3,

(b)ceir rhyw afreoleidd-dra, nam neu wall yn yr hysbysiad, neu mewn perthynas ag ef,

(c)mae'r awdurdod yn afresymol wedi gwrthod cymeradwyo gwneud gwaith amgen, neu mae'r gwaith sy'n ofynnol gan yr hysbysiad fel arall yn afresymol o ran ei nodweddion neu ei faint, neu nid yw'r gwaith yn angenrheidiol;

(d)nid yw'r amser a ganiatawyd ar gyfer cyflawni'r gwaith yn rhesymol ddigon i'r pwrpas hwnnw.

(2)Os bydd apêl o dan yr adran hon wedi'i seilio ar ryw afreoleidd-dra, nam neu wall yn yr hysbysiad neu mewn perthynas ag ef, i'r graddau hynny, rhaid i'r llys wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr afreoleidd-dra, nam neu wall yn sylweddol.

Y pŵer i fynd i mewn i fangreoedd

6(1)Yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn, bydd gan swyddog awdurdod lleol yr hawl i fynd i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol, ar yr amod ei fod yn gallu dangos, ar gais, ryw ddogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n profi ei awdurdod, a hynny—

(a)at ddibenion canfod achos o fethu â chydymffurfio â gofynion y Mesur hwn, y mae'n ddyletswydd ar awdurdod lleol eu gorfodi, yn y fangre neu mewn perthynas â hi,

(b)at ddibenion canfod a oes amgylchiadau yn bod a fyddai'n awdurdodi neu'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, o dan y Mesur hwn,

(c)er mwyn i'r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, a awdurdodir neu sy'n ofynnol gan y Mesur hwn, neu gan orchymyn a wnaed o dan y Mesur hwn, neu

(d)yn gyffredinol er mwyn i'r awdurdod lleol gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Ni cheir mynnu'r hawl i fynd i mewn i fangre oni roddwyd 24 awr o rybudd i'r meddiannwr o'r bwriad i fynd i mewn.

(3)Os gellir bodloni ynad heddwch gyda hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)y gwrthodwyd mynediad i unrhyw fangre, neu y dirnadwyd gwrthodiad o'r fath, neu os nad yw'r fangre wedi'i meddiannu, neu os yw'r meddiannwr yn absennol dros dro, neu os yw'r achos yn un brys, neu pe bai cais i gael mynediad yn trechu'r bwriad, a

(b)bod sail resymol dros gael mynd i mewn i'r fangre am unrhyw un o'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod,

caiff yr ynad, gan warant drwy law'r ynad, awdurdodi'r awdurdod lleol drwy unrhyw swyddog awdurdodedig i gael mynediad i'r fangre, a hynny gan ddefnyddio grym, os bydd angen.

(4)Ni cheir cyhoeddi gwarant o dan is-baragraff (3) uchod oni bai y bodlonwyd yr ustus—

(a)y rhoddwyd hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant i'r meddiannwr, neu

(b)nad yw'r fangre wedi'i meddiannu, neu fod y meddiannwr yn absennol dros dro, neu fod yr achos yn un brys, neu y byddai rhoi'r hysbysiad yn trechu'r bwriad o gael mynd i mewn.

(5)Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn neu warant a gyhoeddwyd o dan y paragraff hwn fynd gydag ef unrhyw bersonau eraill y gall fod eu hangen, ac os aeth y swyddog i mewn i fangre nad oedd wedi'i meddiannu yn rhinwedd y cyfryw warant, rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol ag ydoedd pan aeth i mewn iddi.

(6)Bydd gwarant a gyhoeddwyd o dan y paragraff hwn yn parhau i fod mewn grym nes y diwallwyd y rheswm yr oedd angen cael mynediad iddi.

Profion cydymffurfio â gofynion y Mesur hwn

7(1)Mae gan y paragraff hwn rym at ddiben galluogi awdurdod lleol i ganfod a yw unrhyw waith adeiladu, neu waith adeiladu sydd yn yr arfaeth, y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, wedi cydymffurfio, neu yn mynd i gydymffurfio, ag unrhyw ofyniad yn y Mesur hwn y mae'n ddyletswydd i'r awdurdod ei orfodi.

(2)Mae gan yr awdurdod lleol bŵer at y diben hwnnw—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i'r person a wnaeth y gwaith, neu y gwnaed, gwneir, neu y bwriedir gwneud y gwaith ar ei ran, i gynnal y cyfryw brofion rhesymol ar y gwaith neu mewn perthynas ag ef a ragnodir yn y gofyniad, neu

(b)i gynnal profion rhesymol ei hun ar y gwaith neu mewn perthynas ag ef.

(3)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (2) uchod, mae'r materion y caniateir gofyn am gynnal profion yn eu cylch, neu y ceir cynnal profion yn eu cylch, o dan yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys profi unrhyw ddeunydd, elfen neu gyfuniad o elfennau a ddefnyddir, neu y mae'n fwriad eu defnyddio, wrth wneud y gwaith, ynghyd â phrofi unrhyw wasanaeth, ffitiad neu offer sydd wedi'i ddarparu, neu sy'n cael ei ddarparu neu a fwriedir ei ddarparu mewn perthynas â'r gwaith hwnnw.

(4)Rhaid i'r person y mae'n ofynnol o dan y paragraff hwn iddo gynnal y profion dalu costau cynnal y profion, ac eithrio os bydd yr awdurdod lleol, pan wneir cais i'r awdurdod, yn penderfynu ei fod yn rhesymol cyfarwyddo'r awdurdod lleol i dalu costau cynnal y profion, neu unrhyw ran o'r costau ag a ragnodir yn y cyfarwyddyd hwnnw.

(5)Caiff unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan y paragraff hwn rhwng awdurdod lleol a pherson ynghylch rhesymoldeb—

(a)prawf a ragnodir yn y gofyniad a orfodwyd ar y person hwnnw gan yr awdurdod o dan y paragraff hwn,

(b)yr awdurdod wrth wrthod rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) ar gais y person hwnnw, neu

(c)cyfarwyddyd o dan yr is-baragraff hwnnw a roddir ar gais o'r fath,

gael ei benderfynu gan lys ynadon ar gais y person hwnnw, ac, o ran achos sy'n codi o dan is-baragraff (b) neu (c), caiff y llys orchymyn bod yn rhaid i'r awdurdod lleol dalu'r gost y mae'r cais yn ymwneud â hi, i'r graddau y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn.

Iawndal am ddifrod

8(1)Rhaid i awdurdod lleol dalu iawndal llawn i berson am unrhyw ddifrod a achoswyd wrth i'r awdurdod lleol arfer ei bwerau o dan y Mesur hwn, a hynny mewn perthynas â mater pan nad oedd diffyg ar ran y person hwnnw.

(2)Rhaid datrys unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y paragraff hwn, boed ynghylch pa un a achoswyd unrhyw ddifrod neu ynghylch swm yr iawndal, drwy gyfrwng cymrodeddu, a hynny gan un cymrodeddwr sydd i'w benodi gyda chytundeb y partïon, neu, os nad oes cytundeb, sydd i'w benodi gan Weinidogion Cymru.

Gweithdrefn ar apêl neu gais

9(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)apêl at lys ynadon o dan baragraff 5, neu

(b)gais i lys ynadon o dan baragraff 7(5).

(2)Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, y weithdrefn bydd trwy gwŷn am orchymyn.

(3)Rhaid dwyn yr apêl o dan baragraff 5 o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad paragraff 3 arno.

(4)Rhaid gwneud cais o dan baragraff 7(5) o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad pryd —

(a)yn achos cais sy'n ymwneud â rhesymoldeb prawf a ragnodwyd yn y gofyniad a orfodwyd gan awdurdod lleol, y rhoddwyd i'r ceisydd hysbysiad o'r gofyniad hwnnw gan yr awdurdod,

(b)yn achos cais sy'n ymwneud â gwrthodiad yr awdurdod i roi cyfarwyddyd o dan baragraff 7(4), y rhoddwyd hysbysiad o'r gwrthodiad hwnnw i'r ceisydd, ac

(c)yn achos cais sy'n ymwneud â chyfarwyddyd a roddwyd gan awdurdod lleol o dan baragraff 7(4), y rhoddwyd hysbysiad o'r cyfarwyddyd hwnnw i'r ceisydd.

Rhwystro

10Bydd person sy'n fwriadol yn rhwystro person arall a hwnnw'n gweithio er mwyn gweithredu'r Mesur hwn neu warant a gyhoeddwyd oddi tano yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(fel y'i cyflwynwyd gan adran 2)

ATODLEN 2GWAITH ADEILADU A ORUCHWYLIR GAN RYWUN AC EITHRIO AWDURDODAU LLEOL

Effaith hysbysiad cychwynnol o dan Ran 2 o Ddeddf 1984

1(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd hysbysiad cychwynnol mewn grym a bydd unrhyw waith a ragnodir yn yr hysbysiad yn cynnwys gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo (pa un ai'r gwaith i gyd neu ran ohono ydyw).

(2)Cyhyd â bod yr hysbysiad cychwynnol yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r gwaith hwnnw—

(a)ni fydd adran 3 yn gymwys mewn perthynas â'r gwaith hwnnw, a

(b)ni fydd y swyddogaeth o orfodi darpariaethau'r Mesur hwn a roddir i awdurdod lleol yn adran 2(1) yn cael ei harfer mewn perthynas â'r gwaith hwnnw, ac felly ni chaiff awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwaith hwnnw—

(i)ddwyn achos mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd a gyflawnwyd o dan baragraff 1 Atodlen 1, neu

(ii)cymryd unrhyw gamau eraill i orfodi'r Mesur hwn nac unrhyw ofyniad a geir ynddo.

Effaith hysbysiad corff cyhoeddus o dan Ran 2 o Ddeddf 1984

2(1)Pan fydd hysbysiad corff cyhoeddus mewn grym a phan fydd unrhyw waith a ragnodir yn yr hysbysiad yn cynnwys gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo (pa un ai'r gwaith cyfan neu ran ohono)—

(a)ni fydd adran 3 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith a ragnodir yn yr hysbysiad hwnnw, a

(b)ni fydd modd arfer y swyddogaeth a roddir i awdurdod lleol gan adran 2(1) i orfodi darpariaethau'r Mesur hwn mewn perthynas â'r gwaith hwnnw ac, o ganlyniad, ni chaiff awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwaith hwnnw—

(i)dwyn achos mewn cysylltiad ag unrhyw dramgwydd a gyflawnwyd o dan baragraff 1 o Atodlen 1, neu

(ii)cymryd unrhyw gamau eraill i orfodi'r Mesur hwn neu unrhyw ofyniad a geir ynddo.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill