Rhagarweiniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 27 Mawrth 2019 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 15 Mai 2019. Fe’u lluniwyd gan Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.