Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
Adrannau 82 i 84 – Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth; dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig; a phŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig
153.Pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, mae adran 82 yn darparu y caiff ACC gofrestru’r personau yn eu henwau eu hunain neu yn enw’r bartneriaeth neu’r corff. Os cofrestrir yn enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, rhaid bod o leiaf un o’r aelodau wedi bod yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff cyn y newid er mwyn i’r cofrestriad barhau’n ddilys.
154.Yn unol ag adran 36 o’r Ddeddf, rhaid rhoi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau i aelodaeth partneriaeth neu gorff anghorfforedig, ac effaith adran 82(4) yw bod person yn cael ei drin fel petai’n parhau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gorff hyd nes y rhoddir gwybod i ACC fel arall.
155.Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu y caniateir ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhan o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig o dan y Ddeddf hon neu DCRhT, mae adran 83 yn darparu bod rhaid iddo gael ei wneud gan bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y caiff ei wneud, neu y mae’n ofynnol ei wneud, neu mewn perthynas â hwy. Fodd bynnag, caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner neu aelod rheoli gael ei wneud yn hytrach gan unrhyw un neu ragor ohonynt.
156.Mae rhwymedigaeth i dalu swm o dreth, cosb neu log o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth ar y cyd ac yn unigol i bob person sy’n bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod o’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.
157.Mae adran 84 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all ychwanegu at ddarpariaethau ynglŷn ag achosion, eu diddymu neu eu diwygio, pan fo personau yn rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.