Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Adrannau 29 i 31 – Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy; gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaeth; a gwaith adfer safle: amrywio cymeradwyaeth

60.Mae defnyddio deunyddiau mewn gweithgarwch adfer safle yn weithgarwch tirlenwi penodedig, felly mae i’w drin fel gwarediad trethadwy (gweler adran 8(3)(i)). Mae’r darpariaethau hyn yn darparu ar gyfer rhyddhau’r gwarediad rhag treth os yw’r deunydd wedi ei ffurfio o ddeunydd cymwys ac yn cael ei ddefnyddio i adfer safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran ohono) at ddefnydd arall. Fodd bynnag, maent yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi geisio cymeradwyaeth ar gyfer y gwaith adfer ymlaen llaw er mwyn gallu hawlio’r rhyddhad. Ni fydd defnyddio deunydd i adfer safle heb gymeradwyaeth gan ACC yn elwa ar y rhyddhad. Rhagwelir y bydd y darpariaethau hyn yn galluogi ACC i asesu’r deunydd a ddefnyddir i adfer safle yn drylwyr ac i sicrhau nad oes modd cam-fanteisio ar y rhyddhad.

61.Mae adran 29 yn darparu y caiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, bydd angen i ACC fod wedi ei fodloni bod adfer y safle yn ofynnol o dan drwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle. Dim ond y swm angenrheidiol o ddeunydd i gydymffurfio â’r drwydded neu’r caniatâd a fydd yn elwa ar y rhyddhad.

62.Er bod rhaid i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth cyn i’r gwaith adfer ddechrau, nid oes angen i’r gweithredwr aros am gymeradwyaeth gan ACC cyn dechrau adfer y safle. Er enghraifft, gallai gweithredwr safle tirlenwi benderfynu bwrw ymlaen heb gymeradwyaeth er mwyn manteisio ar dywydd braf neu’r ffaith fod deunydd addas ar gael. Fodd bynnag, byddai gweithredwr y safle tirlenwi yn ysgwyddo’r risg ei hun wrth wneud hynny, oherwydd nid oes sicrwydd y byddai ACC yn cymeradwyo’r cais am gymeradwyaeth, er mwyn iddo allu hawlio rhyddhad adfer safle.

63.Mae adran 30 yn darparu ar gyfer adegau pan fo rhagor o wybodaeth yn ofynnol gan ACC er mwyn penderfynu a ddylid cymeradwyo cais i gyflawni gwaith adfer safle ai peidio, ac yn nodi’r paramedrau o ran sut y bydd hynny’n gweithio yn ymarferol. Caiff ACC a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn cyfnod o amser a bennir gan yr adran hon.

64.Mae adran 31 yn cydnabod y gall gofynion y gwaith adfer safle a nodir yn y drwydded amgylcheddol neu’r caniatâd cynllunio newid, ac mae’n caniatáu i ACC amrywio’r gymeradwyaeth a roddir i adfer y safle. Gall amrywiad gael ei wneud o ganlyniad i gais gan weithredwr safle tirlenwi, neu gall ACC ei wneud. Os yw ACC yn amrywio’r gymeradwyaeth i adfer safle tirlenwi ohono’i hun, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad sy’n nodi manylion yr amrywiad i weithredwr y safle tirlenwi. Nid yw amrywio cymeradwyaeth i adfer safle yn effeithio ar allu gweithredwr y safle tirlenwi i hawlio rhyddhad ar gyfer y gwaith adfer a gyflawnwyd yn unol â’r gymeradwyaeth cyn iddi gael ei hamrywio.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill