- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
9(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan wneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56) (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd) ac—
(a)pan fo’r gwerthwr yn gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes, a
(b)pan fo’r prynwr—
(i)yn gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes, neu
(ii)yn gorff perthynol i’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes sy’n trosglwyddo’r buddiant neu’r hawl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, i gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes,
(2)Pan fo is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys, mae’r trafodiad tir sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw wedi ei ryddhau hefyd.
(3)Yn y paragraff hwn—
ystyr “corff perthynol” (“related body”), mewn perthynas â chymdeithas etholaeth leol, yw corff (pa un ai’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n gweithredu ar ran y blaid wleidyddol o dan sylw;
ystyr “cymdeithas etholaeth leol” (“local constituency association”) yw cymdeithas anghorfforedig (pa un a yw wedi ei disgrifio fel cymdeithas, cangen neu fel arall) sydd â’r prif ddiben o hybu nodau plaid wleidyddol mewn ardal sydd neu a oedd yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol neu ddwy neu ragor o etholaethau seneddol;
ystyr “cymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes” (“existing local constituency association”) yw cymdeithas etholaeth leol yr oedd ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol flaenorol neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union cyn y dyddiad perthnasol;
ystyr “cymdeithas newydd” (“new association”) yw cymdeithas etholaeth leol y mae ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol newydd neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union ar ôl y dyddiad perthnasol;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y daw’r Gorchymyn a grybwyllir yn is-baragraff (1) i rym (gweler adran 4(6) o Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56));
ystyr “etholaeth seneddol flaenorol” (“former parliamentary constituency”) yw ardal a oedd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth yn union cyn y dyddiad perthnasol ond nad yw mwyach yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad hwnnw;
ystyr “etholaeth seneddol newydd” (“new parliamentary constituency”) yw ardal sydd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad perthnasol ond nad oedd yn etholaeth o’r fath yn union cyn y dyddiad hwnnw.
(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae cymdeithas newydd yn olynydd i gymdeithas sy’n bodoli eisoes os yw unrhyw ran o ardal y gymdeithas sy’n bodoli eisoes wedi ei chynnwys yn ardal y gymdeithas newydd.
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys