Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan adeiladwyr tai, masnachwyr eiddo a chyflogwyr, ac mae wedi ei threfnu fel a ganlyn⁠—

(i)mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(ii)mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(iii)mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri,

(iv)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol,

(v)mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vi)mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo cyflogwr yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vii)mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu’n ôl y rhyddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo, ac

(viii)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli geiriau ac ymadroddion sy’n gymwys i Ran 2 o’r Atodlen hon;

(b)mae Rhan 3 yn darparu rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan berson neu bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.

RHAN 2RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

Adeiladwr tai yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

2(1)Pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill) yn caffael annedd newydd gan yr adeiladwr tai,

(b)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r adeiladwr tai yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(c)yr ymrwymir i’r naill gaffaeliad yn gydnabyddiaeth ar gyfer y llall, a

(d)nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd newydd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

3(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion sy’n caffael anheddau newydd gan adeiladwyr tai, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn (boed ar ei ben eu hun neu ynghyd ag unigolion eraill) yn caffael annedd newydd gan adeiladwr tai,

(c)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(d)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd, ac

(e)nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan y masnachwr eiddo yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(d)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (d) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir gan y masnachwr eiddo yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael annedd newydd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri

4(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn wedi gwneud trefniadau i werthu’r hen annedd a chaffael annedd arall (“yr ail annedd”),

(b)bod y trefniadau i werthu’r hen annedd yn methu,

(c)bod yr hen annedd yn cael ei gaffael at y diben o alluogi’r unigolyn i fynd ymlaen i gaffael yr ail annedd,

(d)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion o dan yr amgylchiadau hynny, neu’n ymwneud â hynny,

(e)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r ail annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(f)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd, ac

(g)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(f)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (f) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr ail annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personol

5(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol unigolyn ymadawedig, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan gynrychiolwyr personol unigolion ymadawedig, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn ymadawedig wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y bu farw’r unigolyn,

(c)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, a

(d)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth

6(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion mewn cysylltiad â newid preswylfa o ganlyniad i adleoli cyflogaeth, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael,

(c)y gwneir y caffaeliad mewn cysylltiad â newid preswylfa’r unigolyn o ganlyniad i adleoli cyflogaeth,

(d)nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd,

(e)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd, na

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, ac

(f)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(e)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (e) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Cyflogwr yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth

7(1)Pan fo cyflogwr unigolyn yn caffael annedd gan yr unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r cyflogwr yn ei gaffael,

(b)y gwneir y caffaeliad mewn cysylltiad â newid preswylfa’r unigolyn o ganlyniad i adleoli cyflogaeth,

(c)nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd, a

(d)nad yw arwynebedd y tir y mae’r cyflogwr yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw, ac

(c)mae cyfeiriadau at gyflogwr unigolyn yn cynnwys darpar gyflogwr.

Tynnu’n ôl ryddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo

8(1)Caiff rhyddhad o dan baragraffau 3 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd) a 4 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd.

(2)Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n caffael yr annedd newydd neu’r ail annedd am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(3)Caiff rhyddhad o dan baragraff 5 (rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personol) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

(4)Caiff rhyddhad o dan baragraff 6 (masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n adleoli am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(6)Pan dynnir rhyddhad yn ôl, swm y dreth sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai i’w godi mewn cysylltiad â’r caffaeliad oni bai am y rhyddhad.

Dehongli

9(1)At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “adeiladwr tai” yw

(i)cwmni,

(ii)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

(iii)partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o adeiladu neu addasu adeiladau neu rannau o adeiladau i’w defnyddio fel anheddau ac mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at adeiladwr tai yn cynnwys unrhyw gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gysylltiedig ag ef;

(b)ystyr “annedd newydd” yw adeilad neu ran o adeilad—

(i)sydd wedi ei adeiladu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu yn flaenorol, neu

(ii)sydd wedi ei addasu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu ers iddo gael ei addasu;

(c)ystyr “man cyflogaeth newydd” yw’r fan lle mae unigolyn fel arfer yn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth ar ôl adleoli cyflogaeth, neu lle bydd yn cyflawni dyletswyddau o’r fath fel arfer;

(d)ystyr “swm a ganiateir”, mewn perthynas ag adnewyddu annedd, yw—

(i)£10,000, neu

(ii)5% o’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael yr annedd,

pa un bynnag sydd fwyaf, ond yn ddarostyngedig i uchafswm o £20,000;

(e)ystyr “arwynebedd a ganiateir”, mewn perthynas ag annedd, yw’r rhan honno o’r annedd sy’n dir sy’n cael ei feddiannu a’i fwynhau gyda’r adeilad, neu’r rhan o’r adeilad sy’n cael ei feddiannu fel annedd, fel ei ardd neu ei dir, nad yw’n fwy nag⁠—

(i)arwynebedd (gan gynnwys safle’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad) o 0.5 hectar, neu

(ii)unrhyw arwynebedd mwy sy’n angenrheidiol er mwyn mwynhau’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad yn rhesymol fel annedd, o ystyried ei faint a’i gymeriad;

ond pan fo paragraff (ii) yn gymwys, cymerir mai’r arwynebedd a ganiateir yw’r rhan honno o’r tir a fyddai fwyaf addas i’w meddiannu a’i mwynhau gyda’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad fel ei ardd neu ei dir pe bai gweddill y tir wedi ei feddiannu ar wahân;

(f)ystyr “prif arferydd”, mewn perthynas â masnachwr eiddo—

(i)yn achos cwmni, yw cyfarwyddwr;

(ii)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod;

(iii)yn achos partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod neu berson sy’n brif arferydd i aelod;

(g)ystyr “masnachwr eiddo” yw—

(i)cwmni,

(ii)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

(iii)partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o brynu a gwerthu anheddau;

(h)ystyr “adnewyddu” annedd yw cyflawni gwaith sy’n cynyddu gwerth yr annedd, neu y bwriedir iddo gynyddu gwerth yr annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)glanhau’r annedd, na

(ii)gwaith sy’n angenrheidiol yn unig at y diben o sicrhau bod yr annedd yn cyrraedd safonau diogelwch gofynnol;

(i)ystyr “adleoli cyflogaeth” yw newid ym man cyflogaeth unigolyn o ganlyniad i—

(i)yr unigolyn yn cael ei gyflogi gan gyflogwr newydd,

(ii)newid dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn, neu

(iii)newid y fan lle mae’r unigolyn yn cyflawni’r dyletswyddau hynny fel arfer.

(2)At ddibenion paragraffau 6 a 7, mae newid preswylfa yn newid “o ganlyniad i” adleoli cyflogaeth—

(a)os gwneir y newid yn llwyr neu’n bennaf er mwyn caniatáu i’r unigolyn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i fan cyflogaeth newydd yr unigolyn, a

(b)os nad yw preswylfa flaenorol yr unigolyn o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r fan honno.

(3)At ddibenion Rhan 2—

(a)caiff unrhyw beth a wneir gan gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo, neu mewn perthynas â chwmni o’r fath, ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan y masnachwr eiddo hwnnw, neu mewn perthynas ag ef, a

(b)mae cyfeiriadau at brif arferyddion neu gyflogeion masnachwr eiddo yn cynnwys prif arferyddion neu gyflogeion unrhyw gwmni o’r fath.

RHAN 3RHYDDHAD AR GYFER PERSONAU SY’N ARFER HAWLIAU AR Y CYD

Rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person neu bersonau a enwebir neu a benodir gan denantiaid cymwys fflatiau a gynhwysir mewn mangre yn ymrwymo i drafodiad trethadwy drwy arfer—

(a)hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl i gael y cynnig cyntaf), neu

(b)hawl o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (hawl i ryddfreiniad ar y cyd).

(2)Pennir swm y dreth sydd i’w godi fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Pennu’r ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gynhyrchir drwy rannu cyfanswm y gydnabyddiaeth honno â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

  • Cam 2

    Pennu swm y dreth sydd i’w godi o dan adran 27 fel pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad trethadwy y ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gyfrifwyd o dan Gam 1.

  • Cam 3

    Lluosi’r swm a bennwyd yng Ngham 2 â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

(3)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “fflat” a “tenant cymwys” yr un ystyron â “flat” a “qualifying tenant” yn y Bennod neu’r Rhan o’r Ddeddf sy’n rhoi’r hawl sy’n cael ei harfer;

(b)ystyr “fflat gymwys” yw fflat a ddelir gan denant cymwys sy’n cyfranogi o ran arfer yr hawl.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill