Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 1TRETH TRAFODIADAU TIR

2Treth trafodiadau tir

(1)Mae treth (o’r enw “treth trafodiadau tir”) i’w chodi ar drafodiadau tir.

(2)Caiff y dreth ei chodi—

(a)pa un a oes offeryn yn rhoi effaith i’r trafodiad ai peidio,

(b)os oes offeryn o’r fath, ni waeth ym mha le y caiff ei gyflawni, ac

(c)ni waeth ym mha le y mae unrhyw barti i’r trafodiad nac ym mha le y mae’n preswylio.

(3)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sydd i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.

PENNOD 2TRAFODIADAU TIR

3Trafodiad tir

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “trafodiad tir” yw caffael buddiant trethadwy.

(2)Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae’r Ddeddf hon yn gymwys ni waeth ym mha ffordd y rhoddir effaith i’r caffaeliad, boed drwy weithred gan y partïon, drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu yn sgil gweithredu’r gyfraith.

(3)Gweler adran 15 ynghylch pa bryd y mae caffael opsiwn neu hawl rhagbrynu yn drafodiad tir.

4Buddiant trethadwy

(1)Buddiant trethadwy yw—

(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir yng Nghymru, neu

(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,

ac eithrio buddiant esempt.

(2)Yn y Ddeddf hon, nid yw “tir yng Nghymru” yn cynnwys tir islaw marc cymedrig y distyll.

(3)Gweler adran 9 ynghylch tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

5Buddiant esempt

(1)Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt—

(a)buddiant sicrhad;

(b)trwydded i ddefnyddio tir neu i feddiannu tir;

(c)tenantiaeth wrth ewyllys;

(d)rhyddfraint neu faenor.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)ystyr “buddiant sicrhad” yw buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir at ddiben sicrhau y telir arian neu y caiff unrhyw rwymedigaeth arall ei chyflawni;

(b)ystyr “rhyddfraint” yw grant gan y Goron megis yr hawl i gynnal marchnad neu ffair, neu’r hawl i gymryd tollau.

(3)Gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 10 (sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch buddiannau esempt mewn perthynas â threfniadau ariannol eraill).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)darparu bod unrhyw ddisgrifiad arall o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt;

(b)darparu nad yw disgrifiad o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt mwyach;

(c)amrywio disgrifiad o fuddiant esempt.

6Caffael a gwaredu buddiant trethadwy

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—

(a)creu’r buddiant;

(b)ildio neu ollwng y buddiant;

(c)amrywio’r buddiant.

(2)Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu

(b)bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.

(3)Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—

(a)y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu

(c)y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.

(4)Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—

(a)buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu

(c)buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.

(5)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).

7Y prynwr a’r gwerthwr

(1)Y prynwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n caffael testun y trafodiad.

(2)Y gwerthwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n gwaredu testun y trafodiad.

(3)Mae’r ymadroddion hyn yn gymwys hyd yn oed os na roddir cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad.

8Trafodiadau cysylltiol

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn drafodiad cysylltiol os yw’n un o nifer o drafodiadau tir sy’n ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un gwerthwr a phrynwr neu, yn y naill achos neu’r llall, bersonau sy’n gysylltiedig â hwy.

(2)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 16 (cyfnewidiadau; gweler yn benodol is-adran (1) o’r adran honno sy’n darparu nad yw trafodiadau sy’n ffurfio cyfnewidiad i’w trin fel trafodiadau cysylltiol).

9Tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr

(1)Mae’r adran hon yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i drafodiad sy’n achos o gaffael—

(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir, neu

(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,

pan fo’r tir yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel pe bai’n ddau drafodiad, y naill yn ymwneud â’r tir yng Nghymru (“y trafodiad yng Nghymru”) a’r llall yn ymwneud â’r tir yn Lloegr (“y trafodiad yn Lloegr”).

(3)Mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad i’w ddosrannu rhwng y ddau drafodiad hynny ar sail deg a rhesymol.

(4)Felly, mae’r trafodiad yng Nghymru i’w drin fel trafodiad tir o fewn ystyr y Ddeddf hon (sef caffael buddiant trethadwy sy’n ymwneud â’r tir yng Nghymru).

(5)Ond nid yw is-adran (4) yn gymwys yn achos buddiant esempt.

(6)Rhaid i ACC gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt, gan gynnwys canllawiau ynghylch nodi lleoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

(7)Caiff ACC ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (6) a rhaid iddo gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(8)Gweler adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) o ran cymhwyso Rhan 4 o’r Ddeddf honno (treth dir y dreth stamp) i’r trafodiad yn Lloegr.

(9)Yn adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)See section 9 of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 (dccc 0) as to the application of that Act to the transaction relating to the land in Wales.

PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL

Contractau a throsglwyddiadau: darpariaeth gyffredinol

10Contract a throsglwyddo

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract ar gyfer trafodiad tir a bod y trafodiad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(2)Nid ystyrir bod person yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract (ond gweler is-adran (4)).

(3)Os cwblheir y trafodiad heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol—

(a)caiff y contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau eu trin fel rhannau o un trafodiad tir, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad cwblhau.

(4)Ond os yw’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—

(a)caiff y contract ei drin fel pe bai’r contract y trafodiad y darperir ar ei gyfer yn y contract, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(5)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei gwblhau wedi hynny drwy drosglwyddiad—

(a)mae’r contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau ill dau yn drafodiadau hysbysadwy at ddibenion y Ddeddf hon, a

(b)mae treth i’w chodi ar yr ail drafodiad i’r graddau (os o gwbl) y mae’r swm a grybwyllir yn is-adran (6) yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract.

(6)Y swm yw’r dreth y byddid wedi ei chodi ar yr ail drafodiad pe bai wedi ei gwblhau heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol.

(7)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).

(8)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

(9)Pan fo paragraff 20 o Atodlen 6 yn gymwys (cytundeb ar gyfer les), mae’n gymwys yn lle is-adrannau (4) i (8).

(10)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at gwblhau yn gyfeiriadau at gwblhau’r trafodiad tir y bwriedir ei wneud, rhwng yr un partïon, ac sy’n cydymffurfio’n sylweddol â’r contract;

(b)mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.

Contractau a throsglwyddiadau: achosion penodol

11Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

(a)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

(b)naill ai i berson o’r fath neu i P2.

(2)Nid ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract.

(3)Ond os caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—

(a)caiff P2 ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n caffael buddiant trethadwy, ac felly fel pe bai’n ymrwymo i drafodiad tir, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(4)Pan fo is-adran (3) yn gymwys a bod y contract wedi hynny yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).

(5)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn perthynas â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), nid yw adran 10 (contract a throsglwyddo) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(7)Pan fo—

(a)yr adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b), a

(b)P1 yn dod yn rhwym i drosglwyddo buddiant trethadwy i P2 oherwydd cyfarwyddyd neu gais gan P2,

mae adran 10 yn gymwys i’r rhwymedigaeth honno fel y mae’n gymwys i gontract ar gyfer trafodiad tir sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(8)Mae adran 10 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gontract rhwng P2 a P3, mewn cysylltiad â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato yn is-adran (1), sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(9)Mae cyfeiriadau at gwblhau yn yr adran honno, fel y mae’n gymwys, yn cynnwys cyfeiriadau at drosglwyddo, gan P1 i P3, destun y contract rhwng P2 a P3.

(10)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.

12Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddiad hawliau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan ymrwymir i gontract (“y contract gwreiddiol”) y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

(i)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

(ii)naill ai i berson o’r fath neu i P2, a

(b)pan fo aseiniad neu drafodiad arall (sy’n ymwneud â holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono) y daw person (“P4”) i fod â hawl i arfer unrhyw un neu ragor o hawliau P2 o dan y contract gwreiddiol yn lle P2 o ganlyniad iddo.

(2)Mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon at drosglwyddiad hawliau yn gyfeiriadau at unrhyw aseiniad neu drafodiad arall o’r fath.

(3)Nid ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trosglwyddiad hawliau, ond mae adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) yn cael effaith yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

(4)Mae’r adran honno yn gymwys fel pe bai—

(a)P4 wedi ymrwymo i gontract (“contract eilaidd”) ar yr un telerau â’r contract gwreiddiol ac eithrio bod P4 yn barti yn lle P2, a

(b)y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd—

(i)yn hynny o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ag y bo i’w briodoli i destun y trosglwyddiad hawliau ac sydd i’w roi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan P4 neu gan berson sy’n gysylltiedig â P4, a

(ii)yw’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau.

(5)Mae cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad hawliau.

(6)Pan drosglwyddir hawliau yn olynol, mae is-adran (4) yn cael effaith mewn perthynas â phob trosglwyddiad.

(7)Os caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw.

(8)Pan fo trosglwyddiad hawliau yn ymwneud â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw—

(a)mae cyfeiriad yn is-adran (4)(a) neu (5) at y contract gwreiddiol, neu gyfeiriad yn is-adran (7) at y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad cynharach, yn gyfeiriad at y contract hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, a

(b)mae’r contract hwnnw, i’r graddau nad yw’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, i’w drin fel contract ar wahân.

(9)Os caiff trafodiad tir ei drin fel pe ymrwymwyd iddo yn rhinwedd is-adran (4), nid yw’r dyddiad y mae’n cael effaith yn gynharach na dyddiad y trosglwyddiad hawliau.

(10)Mewn perthynas â thrafodiad o’r fath—

(a)mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’w darllen fel cyfeiriadau at P1;

(b)mae cyfeiriadau eraill at y gwerthwr yn y Ddeddf hon i’w darllen, pan fo’r cyd-destun yn caniatáu hynny, fel cyfeiriadau at naill ai P1 neu P2.

(11)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb.

13Trafodiadau cyn-gwblhau

Mae Atodlen 2 yn gwneud—

(a)darpariaeth ynghylch cymhwyso adran 10 (contract a throsglwyddo) mewn achosion penodol pan ymrwymir i aseinio hawliau, is-werthiant neu drafodiad arall heb i’r contract fod wedi ei gwblhau, a

(b)darpariaeth arall ynghylch achosion o’r fath.

Cyflawni’n sylweddol

14Ystyr cyflawni’n sylweddol

(1)Mae contract wedi ei gyflawni’n sylweddol at ddibenion y Ddeddf hon pan fo—

(a)y prynwr, neu berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun i raddau helaeth, neu

(b)cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)mae meddiant yn cynnwys cael rhenti ac elw neu’r hawl i’w cael, a

(b)nid oes wahaniaeth pa un a gymerir meddiant o dan y contract neu o dan drwydded neu les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.

(3)At ddibenion is-adran (1)(b), caiff cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth ei thalu neu ei darparu—

(a)os nad yw dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth;

(b)os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, pan wneir y taliad rhent cyntaf;

(c)os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent yn ogystal â chydnabyddiaeth arall, pan ddigwydd y cyntaf o’r canlynol—

(i)caiff yr holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent, neu’r holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu, neu

(ii)gwneir y taliad rhent cyntaf.

Opsiynau etc.

15Opsiynau a hawliau rhagbrynu

(1)Mae caffael—

(a)opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir, neu

(b)hawl rhagbrynu sy’n rhwystro’r grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir, neu’n cyfyngu ar hawl y grantwr i ymrwymo iddo,

yn drafodiad tir gwahanol i unrhyw drafodiad tir sy’n deillio o arfer yr opsiwn neu’r hawl.

(2)Gallant fod yn “trafodiadau cysylltiol” (gweler adran 8).

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir yn cynnwys opsiwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r grantwr naill ai ymrwymo i drafodiad tir neu gyflawni ei rwymedigaethau o dan yr opsiwn mewn ffordd arall.

(4)Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yn achos caffael opsiwn neu hawl fel y rheini a grybwyllir yn is-adran (1) yw pan gaffaelir yr opsiwn neu’r hawl (yn hytrach na phan ddaw’n arferadwy).

(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys i hynny o opsiwn neu hawl rhagbrynu sy’n drafodiad tir neu’n ffurfio rhan o drafodiad tir ar wahân i’r adran hon.

Cyfnewidiadau

16Cyfnewidiadau

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achos sydd o fewn is-adran (2) mewn perthynas â phob trafodiad a ddisgrifir yn yr is-adran honno fel pe bai pob un yn wahanol i’w gilydd ac ar wahân i’w gilydd (ac nid ydynt yn drafodiadau cysylltiol o fewn ystyr adran 8).

(2)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr.

(3)Caiff trafodiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un y mae person wedi ymrwymo iddo fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr mewn achos sydd o fewn is-adran (4).

(4)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fodlonir rhwymedigaeth i roi cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir y mae person yn ymrwymo iddo fel prynwr yn llwyr neu’n rhannol wrth i’r person hwnnw ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr.

(5)O ran y swm o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn achos cyfnewidiadau a thrafodiadau tebyg, gweler—

(a)paragraffau 5 a 6 o Atodlen 4 (cyfnewidiadau, darnddosbarthu etc.);

(b)paragraff 18 o’r Atodlen honno (trefniadau sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gyrff addysgol).

PENNOD 4TRAFODIADAU TRETHADWY A CHYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Trafodiadau trethadwy

17Trafodiad trethadwy

Mae trafodiad tir yn drafodiad trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn drafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, neu

(b)ei fod yn drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd darpariaeth a restrir yn adran 30(2) ac yr hawlir rhyddhad rhag treth ar ei gyfer.

Cydnabyddiaeth drethadwy

18Cydnabyddiaeth drethadwy

(1)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—

(a)yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu

(b)pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.

19Cydnabyddiaeth ddibynnol

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—

(a)nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu

(b)y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.

20Cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

21Blwydd-daliadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd ar ffurf blwydd-dal sy’n daladwy—

(a)am oes,

(b)am byth,

(c)am gyfnod amhenodol, neu

(d)am gyfnod penodol sy’n hwy na 12 mlynedd.

(2)Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w hystyried wedi ei chyfyngu i 12 mlynedd o daliadau blynyddol.

(3)Pan fo’r swm sy’n daladwy yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, neu os gall amrywio felly, y 12 taliad blynyddol uchaf sydd i’w hystyried.

(4)Rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu’r swm sy’n daladwy yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

(5)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at daliadau blynyddol yn gyfeiriadau at daliadau mewn cysylltiad â phob cyfnod olynol o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae swm neu werth unrhyw daliad i’w bennu (os oes angen) yn unol ag adran 19 (cydnabyddiaeth ddibynnol) neu 20 (cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod).

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at flwydd-dal yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth (ar wahân i rent) sydd i’w thalu neu i’w darparu’n gyfnodol; ac mae cyfeiriadau at daliad i’w darllen yn unol â hynny.

22Gwerth marchnadol tybiedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prynwr yn gwmni ac—

(a)y gwerthwr yn gysylltiedig â’r prynwr, neu

(b)rhywfaint o’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu’r holl gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, ar ffurf dyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef.

(2)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw—

(a)y swm a bennir o dan is-adran (3) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(b)os yw’n fwy na hynny, y swm a fyddai wedi bod yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o anwybyddu’r adran hon.

(3)Y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cwmni” (“company”) yw unrhyw gorff corfforaethol;

  • mae “cyfranddaliadau” (“shares”) yn cynnwys stoc ac mae’r cyfeiriad at gyfranddaliadau mewn cwmni yn cynnwys cyfeiriad at warannau a ddyroddir gan gwmni.

(5)Pan fo’r adran hon yn gymwys nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptio trafodiadau nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys.

(6)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)yr eithriadau a ddarperir yn adran 23, a

(b)unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

23Eithriadau

(1)Nid yw adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig) yn gymwys yn yr achosion a ganlyn.

(2)Achos 1 yw pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes a gyflawnir ganddo sydd ar ffurf rheoli ymddiriedolaethau neu’n cynnwys hynny.

(3)Achos 2 yw—

(a)pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)pan fo’r gwerthwr yn gysylltiedig â’r cwmni oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn unig.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â’i ddirwyn i ben ai peidio), neu’n rhan o hynny, a

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, nad yw trafodiad yr hawliodd y gwerthwr ryddhad grŵp o dan Atodlen 16 ar ei gyfer wedi ymwneud ag—

(i)testun y trafodiad, neu

(ii)buddiant y mae’r buddiant hwnnw yn deillio ohono.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “y cwmni” yw’r cwmni sy’n brynwr mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill