Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

76Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff yr hawlydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 76 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3