Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

75Cwblhau ymholiadLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r hawlydd yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad oes angen diwygio’r hawliad ym marn ACC, neu

(b)os yw’r hawliad yn annigonol neu’n ormodol ym marn ACC, diwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd.

(3)Yn achos ymholiad i ddiwygiad o hawliad, nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i’r diwygiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 75 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3