Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

77Rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i ACC, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad o dan adran 75(2)(b) roi effaith i’r diwygiad drwy wneud unrhyw addasiad a all fod yn angenrheidiol, boed—

(a)ar ffurf asesiad o’r hawlydd, neu

(b)drwy ad-dalu treth ddatganoledig neu [F1ei gollwng].

(2)Nid yw asesiad a wneir o dan is-adran (1) oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr is-adran honno.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 77 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3