Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Adran 37 – Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd

105.Mae hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd yn un o’r ffyrdd y gall CCAUC gymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliad am beidio â chydymffurfio â:

  • therfynau ar ffioedd myfyrwyr (o dan adran 10);

  • gofyniad cyffredinol mewn cynllun sefydliad a gymeradwywyd;

  • cyfarwyddyd mewn cysylltiad â gofyniad cyffredinol mewn cynllun (o dan adran 13);

  • cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol (o dan adran 19); a

  • chyfarwyddyd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod (o dan adran 32).

106.Ar hyn o bryd gall CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd newydd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 ar y sail o beidio â chydymffurfio â’r terfynau ar ffioedd myfyrwyr neu ddarpariaethau cyffredinol cynllun sefydliad a gymeradwywyd. Er nad yw ansawdd addysgol na rheolaeth ariannol yn rhan o’r trefniadau cynllunio ffioedd presennol, mae CCAUC yn rheoleiddio sefydliad mewn cysylltiad â’r materion hyn drwy delerau ac amodau cyllido.

107.Unwaith bod hysbysiad wedi ei roi, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd hyd nes bod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben. Fodd bynnag, caiff CCAUC dynnu hysbysiad yn ôl ac ar yr adeg honno bydd y cyfyngiad ar gymeradwyo cynllun newydd yn dod i ben. Er enghraifft, caiff CCAUC ystyried tynnu hysbysiad yn ôl os yw wedi ei fodloni bod sefydliad wedi mynd ati i ddatrys y methiant a nodwyd mewn cyfarwyddyd ac nad yw’n briodol parhau â chamau gorfodi.

108.Mae is-adran (7) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer:

  • y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad, pan na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd. Er enghraifft, gallai hyn ddarparu nad yw CCAUC yn gallu cymeradwyo cynllun ffioedd newydd am gyfnod o un flwyddyn o leiaf. Fel arall, gellid cyfyngu ar y cyfnod hwyaf ar gyfer peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd i flwyddyn;

  • materion y mae rhaid i CCAUC eu hystyried wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad neu ei dynnu’n ôl. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ystyried a yw sefydliad (ar ôl y dyddiad cydymffurfio) wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd neu wedi addasu ei ffioedd ac ad-dalu unrhyw ffioedd myfyrwyr a godwyd yn ormodol;

  • y weithdrefn i’w dilyn wrth dynnu hysbysiad yn ôl. Er enghraifft, gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC roi hysbysiad am dynnu’n ôl i’r sefydliad a/neu gyhoeddi hysbysiad am dynnu’n ôl ar ryw ffurf.

109.Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan adran 13 i gorff llywodraethu sefydliad a fu’n sefydliad rheoleiddiedig gynt ond nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig mwyach, pan fethodd y corff llywodraethu hwnnw â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad ar adeg pan oedd y cynllun hwnnw mewn grym. Mae adran 37(7) yn cymhwyso adran 37 i sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau rheoleiddiedig ond sydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13.

110.Mae adrannau 41 i 44 yn nodi’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu sy’n gymwys i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill