Newidiadau dros amser i: Adran 144A
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 23/02/2021
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Statws
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 144A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Mehefin 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[144AAdroddiadau blynyddolLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—
(a)manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—
(i)gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),
(ii)gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a
(iii)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a
(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
(3)Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.
(4)Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.]
Yn ôl i’r brig