Newidiadau dros amser i: Adran 125D
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2020.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 125D yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 29 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[125D.(1)Rhaid i berson beidio â chyhoeddi i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac i unrhyw ran o’r cyhoedd, unrhyw ddeunydd y bwriedir iddo sicrhau bod modd adnabod, neu sy’n debygol o olygu bod modd adnabod—LL+C
(a)unrhyw blentyn sy’n rhan o unrhyw achos gerbron yr Uchel Lys neu’r llys teulu y caiff unrhyw bŵer o dan y Ddeddf hon ei arfer ynddo gan y llys mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn; neu
(b)cyfeiriad neu ysgol fel un plentyn sy’n rhan o unrhyw achos o’r fath.
(2)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r sawl a gyhuddir brofi nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros amau, fod y deunydd a gyhoeddwyd wedi ei fwriadu i sicrhau bod modd adnabod y plentyn, neu’n debygol o olygu bod modd adnabod y plentyn.
(3)Caiff y llys neu’r Arglwydd Ganghellor, os yw wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn gwneud hynny yn ofynnol ac, yn achos yr Arglwydd Ganghellor, os yw’r Arglwydd Brif Ustus yn cytuno, drwy orchymyn hepgor gofynion is-adran (1) i’r graddau hynny a bennir yn y gorchymyn.
(4)At ddibenion yr adran hon—
(5)Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i’r adran hon yn euog o drosedd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(6)Caiff yr Arglwydd Brif Ustus enwebu deiliad swydd farnwrol (fel y diffinnir “judicial office holder” yn adran 109(4) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) i arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3).]
Yn ôl i’r brig